Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwasanaethau Ecolegol


Summary (optional)
start content

Wrth gyflawni ei swyddogaethau, mae gweithrediadau'r Cyngor heb os yn effeithio ar fywyd gwyllt a bioamrywiaeth - yn gadarnhaol ac yn negyddol. Mae Ecolegydd y Cyngor yn cynghori adrannau eraill ar arfer gorau ar gyfer bioamrywiaeth ar draws holl feysydd swyddogaeth y Cyngor.

Gall datblygu tir ac adeiladau gael effeithiau difrifol ar fywyd gwyllt ac mae’r Ecolegydd yn chwarae rhan hanfodol o ran cynghori sut y gellir lleihau hyn drwy:

  • Ddiogelu’r safleoedd mwyaf gwerthfawr
  • Diogelu bywyd gwyllt, er enghraifft, mae ystlumod ac adar sy'n nythu yn cael eu gwarchod yn gyfreithiol

Mae Conwy, gyda rhan fwyaf o Awdurdodau Lleol eraill yng Ngogledd Cymru, ynghyd â chyrff cyhoeddus a gwirfoddol eraill, yn bartner sefydlol o Cofnod, Gwasanaeth Gwybodaeth Amgylcheddol Gogledd Cymru, sy'n cadw a rheoli data bywyd gwyllt yn y rhanbarth.Mae'r data a reolir gan Cofnod yn ein cynorthwyo i sicrhau bod y penderfyniadau a wna'r Cyngor yn seiliedig ar yr wybodaeth orau sydd ar gael.

Os ydych angen cyngor ynglŷn ag unrhyw waith rydych yn ei wneud a all gael effaith ecolegol yna e-bostiwch affch@conwy.gov.uk.

Bywyd gwyllt sy'n cael ei warchod ac adeiladau

end content