Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Adar y Foryd, y Rhostir a'r Arfordir


Summary (optional)
Taith drwy’r dydd gydag arweinwyr bywyd gwyllt o'r RSPB a Pharc Gwledig y Gogarth.
start content

Crynodeb o’r digwyddiad:

Treuliwch y diwrnod mewn dau o leoliadau bywyd gwyllt gorau’r ardal, yn darganfod adar gwyllt y foryd, morlynnoedd a gwlâu hesg RSPB Conwy gyda'r warden, cyn symud ymlaen ar daith gerdded dan arweiniad Warden y Parc Gwledig o gwmpas y rhostir a chlogwyni adar môr anhygoel y Gogarth.

  • Cost £7 (£5.50 i aelodau’r RSPB), taladwy ymlaen llaw.
  • Gwisgwch esgidiau cerdded cadarn, dewch â binocwlars os oes gennych rai a lluniaeth.
  • Cynghorir chi i wisgo dillad gwrth-ddŵr
  • Dim cŵn os gwelwch yn dda
  • Nodwch y bydd y prynhawn ar y Gogarth yn cynnwys taith gerdded ar lwybrau cul drwy rostir a thros dir creigiog, felly mae angen bod yn hyderus mewn amodau o’r fath. Mae grisiau mewn rhai mannau hefyd.
  • Anaddas ar gyfer cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio
  • Mae croeso i oedolion a theuluoedd; cyn archebu, ystyriwch fod hwn yn ddigwyddiad drwy’r dydd ac mae’n cynnwys llawer o gerdded
  • Bydd y digwyddiad yma’n cael ei gyflwyno yn Gymraeg a Saesneg

Lleoliad:

  • Y bore yn RSPB Conwy: cyfarfod yn y ganolfan ymwelwyr am 10am – gorffen am 12.30pm. Bydd angen i chi drefnu eich trafnidiaeth eich hun rhwng y gwarchodfeydd natur. Dewch â’ch cinio eich hun – fel arall, bydd siop goffi’r RSPB ar agor os ydych chi’n dymuno prynu cinio
  • Y Prynhawn ym Mharc Gwledig y Gogarth: cyfarfod ym maes Parcio Ffordd Sant Tudno (SH 769 835), uwchben Eglwys Sant Tudno, am 1.30pm – ac yn gorffen tua 4.30pm

Dyddiad ac amser:

  • Dydd Sul 20 Mai 2018, 10am – 4.30pm (oddeutu)

Gwybodaeth archebu:

  • Mae archebu lle’n hanfodol (drwy RSPB Conwy)
  • Ffoniwch 01492 581025
  • Lleoedd yn brin
  • Sicrhewch eich bod wedi darllen ein telerau ac amodau cyn gwneud eich archeb
end content