Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Taith gerdded cacwn ar y Gogarth


Summary (optional)
start content

Crynodeb o’r digwyddiad:

Dewch i ymuno â Warden y Parc Gwledig a Christine Jones (Gwirfoddolwr gydag Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn a Chyfaill y Fach), i ddod o hyd i gacwn a gwahanol rywogaethau eraill o fywyd gwyllt. Yn amodol ar y tywydd byddwn yn gweld cacwn nodweddiadol y Gogarth, yn ogystal â gwenyn unig sy’n byw ar y pentir. Dewch i wybod mwy am eu bywydau diddorol ac am hanes a chadwraeth y tirwedd hardd hwn.

  • Hyd y daith yw tua dwy filltir ac mae’n cynnwys rhannau o ddringo a thir serth ac anwastad, gan ddechrau gyda taith hamddenol i fyny drwy Erddi'r Fach ac yna, rhan fwy heriol ar y mynydd uwchben i gael golwg gwell ar ardal o rostir
  • Mae esgidiau cerdded yn hanfodol yn ogystal â dillad sy’n dal dŵr ac yn gynnes rhag y gwynt, hetiau, eli haul, a digon i yfed, felly byddwch yn barod am unrhyw dywydd!
  • Mae croeso i oedolion/deuluoedd ond byddwch yn ymwybodol bod y daith gerdded yn un hir, dros tir serth ac anwastad
  • Mae croeso i gŵn gydag ymddygiad da ar dennyn
  • Bydd y digwyddiad yma’n cael ei gyflwyno yn Gymraeg a Saesneg

Lleoliad:

  • Gerddi’r Fach a Pharc Gwledig y Gogarth
  • Cyfarfod yng nghaffi Parisella, y Fach (GR: SH 782 830)

Dyddiad ac amser:

  • Dydd Sul, 8 Gorffennaf 2018, 1pm - 3.30pm

Gwybodaeth archebu:

  • Mae archebu lle yn hanfodol
  • Ffoniwch swyddfa Parc Gwledig y Gogarth ar 01492 874151
  • Sicrhewch eich bod wedi darllen ein telerau ac amodau cyn gwneud eich archeb
end content