Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Clirio safle magnelau Trwyn y Gogarth


Summary (optional)
Codi sbwriel gyda thema hanesyddol a byd natur!
start content

Crynodeb o’r digwyddiad:

Dewch i helpu Wardeniaid y Parc Gwledig i godi sbwriel yn yr Heneb Gofrestredig. Mae safle magnelau Trwyn y Gogarth, lleoliad yr Ysgol Magnelau Arfordirol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn un o Henebion Cofrestredig mwyaf modern Cymru. Heblaw am ei ddiddordeb hanesyddol helaeth, mae hefyd yn darparu cartref gwych i fyd natur – dewch â’ch binocwlars efallai, gan y bydd yn gyfnod mudo i’r adar!

  • Cerdded yn bennaf ar hyd ffyrdd a llwybrau
  • Argymhellir esgidiau cerdded - ond mae dillad sy’n dal dŵr ac yn gynnes rhag y gwynt, hetiau, eli haul, a digon i yfed yn hanfodol felly byddwch yn barod am unrhyw dywydd!
  • Croeso i oedolion/deuluoedd
  • Darperir menig a chasglwyr sbwriel
  • Mae croeso i gŵn gydag ymddygiad da ar dennyn
  • Bydd y digwyddiad yma’n cael ei gyflwyno yn Gymraeg a Saesneg

Lleoliad:

  • Parc Gwledig y Gogarth
  • Cyfarfod yn nholldy Penmorfa (GR:SH 769 823)

Dyddiad ac amser:

  • Dydd Sul 9 Medi 2018 1pm – 4pm

Gwybodaeth archebu:

  • Mae archebu lle yn hanfodol
  • Ffoniwch swyddfa Parc Gwledig y Gogarth ar 01492 874151
  • Sicrhewch eich bod wedi darllen ein telerau ac amodau cyn gwneud eich archeb
end content