Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Heicio yn y Grug ar Fynydd y Dre, Conwy


Summary (optional)
start content

Crynodeb o’r digwyddiad:

Archwilio hanes a bywyd gwyllt diddorol Mynydd y Dre, Conwy ac Ystâd Pensychnant gyfagos gyda thaith gerdded wedi’i thywys gan Sefydliad Pensychnant a’r Warden Cefn Gwlad Conwy.

  • Dewch â dillad cynnes sy’n dal dŵr.
  • Gwisgwch esgidiau cryfion gan fod darnau serth sydd yn llithrig pan fo’n wlyb dan draed
  • Argymhellir dod â binocwlars os oes gennych bâr
  • Dim cŵn os gwelwch yn dda
  • Bydd croeso i chi ymuno â ni am baned o de ym Mhensychnant ar y diwedd
  • Croesewir rhoddion i Sefydliad Pensychnant
  • Bydd y digwyddiad yma’n cael ei gyflwyno yn Gymraeg a Saesneg

Lleoliad:

  • Mynydd y Dre, Conwy
  • Canolfan Gadwraeth Pensychnant, Ffordd Bwlch Sychnant, Conwy, Conwy, LL32 8BJ (SH751770)
  • Mae maes parcio Canolfan Cadwraeth Pensychnant ar dop Bwlch Sychnant. O Gonwy ar hyd ffordd Bwlch Sychnant: unwaith y byddwch wedi mynd dros y grid gwartheg, trowch i mewn i’r trydydd dreif ar eich dde sy’n mynd â chi i faes parcio ychydig islaw’r tŷ.

Dyddiad ac amser:

  • Dydd Llun 30 Gorffennaf 2018, 1-4pm

Gwybodaeth archebu:

  • Mae archebu lle yn hanfodol
  • Ffoniwch 01492 575547
end content