Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gloÿnnod Byw y Marian


Summary (optional)
start content

Crynodeb o’r digwyddiad:

Mae Vic Hitchings sy’n diddori mewn Gloÿnnod Byw, a Warden y warchodfa, yn eich gwahodd i archwilio a darganfod mwy am y gloÿnnod arbennig sydd i'w gweld yn y warchodfa a pham maent yn ffynnu yma.

Rydym yn edrych ymlaen at eich cyfarfod gyda lluniaeth yn neuadd y pentref am 1pm, ar gyfer cyflwyniadau a sgwrs (yn para tua 40 munud) am loÿnnod byw Mynydd Marian a’i arolwg blynyddol.

  • Bydd taith gerdded allan i’r warchodfa i ddilyn
  • Byddwn yn anelu i fod yn ôl yn y Maes Parcio erbyn 2.45pm
  • Bydd siartiau adnabod ar gael i’w defnyddio yn ystod y digwyddiad
  • Bydd y llwybr cerdded yn cynnwys tir serth, garw a chreigiog, mewn mannau, ac weithiau bydd yn ofynnol i ni gerdded mewn un rhes
  • Mae angen esgidiau cerdded cadarn ac fe’ch cynghorir i ddod â dillad gwrth-ddŵr
  • Anaddas ar gyfer cadeiriau olwyn
  • Mae rhai mannau yn unig yn addas ar gyfer cadeiriau gwthio ag olwynion mawr
  • Mae'n ddrwg gennym - dim cŵn os gwelwch yn dda
  • Bydd y digwyddiad yma’n cael ei gyflwyno yn Saesneg yn unig

Lleoliad:

  • Gwarchodfa Natur Leol Mynydd Marian
  • Cyfarfod yn:Neuadd y Pentref Llysfaen (ar Ffordd Dolwen) LL29 8SS
  • Mae mannau parcio ar gael ym maes parcio Mynydd Marian - o Ffordd y Llan, trowch i'r dde i Ffordd Bron y Llan a throwch i'r dde i mewn i faes parcio'r warchodfa. Mae’r maes parcio 100m o neuadd y pentref (gyferbyn ag eglwys y pentref).

Dyddiad ac amser:

  • Dydd Sadwrn 14 Gorffennaf 2018, 1pm - 2.45pm

Gwybodaeth archebu:

  • Mae archebu lle yn hanfodol
  • Ffoniwch 07733 012842
  • Os bydd tywydd eithafol, bydd y digwyddiad yn cael ei ganslo, felly rhowch rif ffôn symudol y gallwn ei ddefnyddio i gysylltu â chi
  • Sicrhewch eich bod wedi darllen ein telerau ac amodau cyn gwneud eich archeb
end content