Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwelliannau i Amddiffynfeydd Arfordirol yn Llanfairfechan


Summary (optional)
start content

welsh government logo
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ceisio cyllid gan Lywodraeth Cymru i wella’r amddiffynfeydd llifogydd arfordirol o amgylch arfordir y sir er mwyn gallu wynebu her newid hinsawdd a’r cynnydd yn lefel y môr yn y dyfodol.

Mae Llanfairfechan yn un lleoliad sydd wedi’i enwi lle gallai’r cynlluniau ddenu arian i leihau’r perygl llifogydd arfordirol a gwella mynediad amwynderau ar y blaendraeth.

Beth yw’r broblem?

Mae amddiffynfeydd arfordirol presennol Llanfairfechan yn cynnwys cyfuniad o forgloddiau gyda chreigiau amddiffyn mewn mannau a thraethau tywod a graean gyda grwynau pren.

Ar hyn o bryd, mae tonnau’n aml yn torri dros ben y prif amddiffynfeydd. Mae hyn wedi arwain at lifogydd mewn eiddo cyfagos ac yn yr isadeiledd lleol yn y gorffennol.

Mae ail forglawdd amddiffyn rhag llifogydd ar hyd ymyl y ffordd, a godwyd yn 2012, wedi helpu rhywfaint i leihau effaith llifogydd yn sgil tonnau’n torri drosodd. Fodd bynnag, mae yna berygl sylweddol o lifogydd arfordirol o hyd, fel y dengys digwyddiadau diweddar, modelu hydrolig ac asesiad o donnau’n torri drosodd. Mae disgwyl i’r perygl gynyddu wrth i ni weld effeithiau’r newid yn yr hinsawdd - yn enwedig cynnydd yng nghyfartaledd lefelau’r môr.

Beth yw’r cynlluniau ar gyfer Llanfairfechan?

Amddiffynfeydd arfordirol

Rydym yn cynnig cynyddu uchder y wal bresennol ar hyd y 725m. Byddai hyn yn golygu ychwanegu rhwng 200mm a 500mm o wal newydd ar ben y morglawdd presennol.

Byddai hyn yn gwella lefel yr amddiffyniad rhag llifogydd er mwyn lleihau difrod i eiddo preswyl a busnes.

Man cyhoeddus - gwelliannau i’r maes parcio

Byddwn yn gosod arwyneb newydd ar y maes parcio presennol ac yn diwygio ei gynllun, yn ogystal â:

  • gwella’r draeniau
  • gosod mannau gwefru cerbydau trydan
  • ychwanegu 18 man parcio grasscrete yn y maes parcio ychwanegol

 

Fe wnaethom gofrestru dau gais cynllunio yn Chwefror 2024, ar gyfer yr amddiffynfeydd arfordirol a’r maes parcio.

Gweld y cais cynllunio a chyflwyno sylwadau

Chwiliwch am rif cais 0/51422 (amddiffynfeydd arfordirol) a 0/51419 (maes parcio)

Sesiwn galw heibio i’r cyhoedd: Dydd Mercher, 20 Mawrth 2024 - 2.30pm tan 6.00pm

Neuadd Gymunedol Llanfairfechan,
Village Road,
LL33 0AB

Sut fydd y cynllun yn gwneud gwahaniaeth?

Uchder yw’r elfen bwysicaf i leihau risg llifogydd oherwydd lefelau dŵr uchel. Cyflawnom arolygon geodechnegol a strwythurol yn 2023 i ganfod a yw’r amddiffynfeydd presennol yn ddigon sefydlog i ni allu adeiladu ar eu pennau. Mae hyn yn golygu y gallwn godi’r uchder heb orfod dymchwel a disodli’r amddiffynfa gyfan.

Oes cyllid ar gael?

Nid ydym wedi cael cyllid ar gyfer gwaith adeiladu’r morglawdd eto, dim ond ar gyfer y gwaith dylunio. Rydym wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru am 85% o arian cyfatebol drwy raglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol 2024/25. Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fydd yn ariannu’r 15% sy’n weddill.

Mae’r gwelliannau i’r maes parcio yn cael eu hariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, y Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn a chyllid cyfalaf y Cyngor. Rydym yn disgwyl codi ffioedd parcio yn y maes parcio ar ôl ei wella, a fydd yn cyfrannu tuag at y gost.

levelup-logos-e

Pryd fydd y gwaith yn cael ei wneud?

Amserlen bosib ar gyfer y gwaith - hyd, dyddiad cychwyn posib.

Ni allwn gychwyn gweithio ar yr amddiffynfeydd arfordirol nes y byddwn wedi sicrhau cyllid. Os byddwn yn llwyddo i gael y cyllid ar gyfer yr amddiffynfa arfordirol, gallai’r gwaith hwn gychwyn ddechrau haf 2024.Mae’r gwaith yn debygol o gymryd 6 mis i gyd.

Os na fyddwn yn cael cyllid i wneud y gwaith ar yr amddiffynfa arfordirol, bydd yn mynd ati o hyd i wella’r maes parcio yn 2024.

Y Cob

Gorlifodd y llanw dros ran o wal y môr ar hyd y Cob yn Llanfairfechan yn ystod storm ar 5 Hydref 2021. Nid eiddo’r Cyngor yw wal y môr, ond  mae hawl tramwy cyhoeddus y tu cefn i’r rhan lle bu’r dŵr yn gorlifo. 

Ar 23 Tachwedd 2021, cymeradwyodd y Cabinet y dylid cyflawni gwaith atgyweirio amddiffynfeydd meini brys gyda chost o oddeutu £275,000 ar gyfer y darn hwnnw, gydag ymgais i adennill y costau yn amodol ar ganfod perchennog y tir. 

Cafwyd difrod pellach gan stormydd ddiwedd mis Tachwedd a Rhagfyr ac rydym wedi cyflawni asesiadau ac arolygon strwythurol ychwanegol. 

Dechreuodd gwaith amddiffynnol ym Mawrth 2022 i osod creigiau amddiffyn ar y morglawdd.

Roedd ail gam y gwaith ym Medi 2022 yn ymestyn a chwblhau’r amddiffyniad carreg. Cafodd y llwybr hygyrch hefyd ei ail-gyflwyno.

Adborth

Adran Risg Llifogydd ac Isadeiledd:
Ebost: affch@conwy.gov.uk

end content