Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Prosiect Glan y Môr Bae Colwyn


Summary (optional)
start content
Cysylltwch â ni
Ewch

Sefydlwyd Prosiect Glan y Môr Bae Colwyn i ymdrin â chyflwr yr amddiffynfeydd arfordirol ar hyd glan y môr Bae Colwyn.

Beth yw’r broblem?

Mae'r rhan fwyaf o'r amddiffynfeydd môr presennol yn dyddio'n ôl i droad yr 20fed ganrif. Mae'r dirywiad yn lefelau'r traeth wedi gwanhau’r amddiffynfeydd mewn sawl ardal. Mae stormydd cynyddol ddifrifol ac aml ynghyd â newid yn yr hinsawdd yn fygythiad cynyddol i eiddo a seilwaith ar hyd glan y môr ac yn fewndirol.

Ynglŷn â'r Prosiect

Penderfynodd y Cyngor ailwampio'r amddiffynfeydd llifogydd presennol yn sylweddol er mwyn darparu amddiffyniad arfordirol hirhoedlog ac effeithiol ar gyfer Bae Colwyn a'i drigolion. Oherwydd y gwaith helaeth sydd ei angen, gwelsom hyn fel cyfle i greu promenâd a fyddai'n denu trigolion lleol ac ymwelwyr, gan roi hwb i'r economi leol. Bydd Prosiect Glan Môr Bae Colwyn yn gwella'r ardal yn ogystal â diogelu'r gymuned a'i seilwaith.

Nododd yr Uwchgynllun, a gyhoeddwyd yn 2010, lan y môr Hen Golwyn fel y parth natur, Bae Colwyn fel y parth chwaraeon dŵr a Llandrillo-yn-Rhos fel y parth i deuluoedd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y prosiect, defnyddiwch y ffurflen ar-lein i gysylltu â ni.

Gwaith wedi'i gwblhau a gwaith arfaethedig

Datblygu Prosiect ac Ymgynghori

end content