Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwaith wedi'i gwblhau a gwaith arfaethedig


Summary (optional)
start content

Gyda gwaith yn parhau ar draws glan y môr Bae Colwyn, mae’r dudalen hon yn amlinellu llwyddiannau’r prosiectau hyd yn hyn ac yn cynnwys gwybodaeth am waith arfaethedig.

Llwyddiannau’r Prosiect:

  • Chwefror 2011 – Cam 1 yn cael ei gymeradwyo ac yn cael arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru; gwaith yn dechrau ar y safle.
  • Hydref 2011 – Pwyllgor Cynllunio Conwy’n cymeradwyo cynlluniau ar gyfer y ganolfan chwaraeon dŵr.
  • Rhagfyr 2011 - Yn dilyn sesiynau ymgynghori cyhoeddus, y sylfeini ar gyfer y ganolfan chwaraeon dŵr yn cael eu gosod.
  • Chwefror 2012 - Ar ôl derbyn cyflwyniadau, mae’r enw newydd ar gyfer y ganolfan chwaraeon dŵr yn cael ei ddewis - Porth Eirias.
  • Mehefin 2012 - Ffrâm ddur Porth Eirias yn cael ei chwblhau Gorffennaf 2012 – Mae’r digwyddiad cyntaf yn cael ei gynnal ar y llithrfa newydd – Triathlon Cyntaf Eirias.
  • Awst 2012 - Rhagwelir bod adeilad Porth Eirias yn mynd i gael Safon Ragorol BREEAM.
  • Tachwedd 2012 - Mae capsiwl amser Porth Eirias yn cael ei gladdu a bydd yn cael ei gloddio yn 2062.
  • Chwefror 2013 – Dechrau mewnforio 500,000 tunnell o dywod ar y traeth.
  • Mehefin 2013 – Dechrau datblygu gwaith gwella'r promenâd a dyluniadau amddiffyn yr arfordir.
  • Ionawr 2014 - Camau nesaf o’r prosiect yn cael eu cwblhau.
  • Mawrth 2014 - Gwaith yn dechrau ar y gwelliannau i’r promenâd a gwaith amddiffyn yr arfordir.
  • Gorffennaf 2014 - Mae'r gwaith o osod y morglawdd eilradd ac adrannau newydd o’r promenâd yn dechrau.
  • Hydref 2014 – Mae’r promenâd sydd newydd ei gwblhau yn ailagor i'r cyhoedd.
  • Mawrth 2015 – Mae gwaith tirlunio yn cael ei gynnal i'r gorllewin o Fflatiau Princess Court ar ochr y tir o’r briffordd.
  • Ebrill 2015 – Mae unedau seddi a gafodd eu comisiynu gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn cael eu gosod.
  • Gorffennaf 2015 - Gosodiad celf panoramig yn cael ei gwblhau yn y wal gynnal o amgylch Porth Eirias.

Cynlluniau ar gyfer gwaith arfaethedig

Pan fydd cynlluniau ar gyfer cam arfaethedig nesaf y gwaith wedi cael eu cynhyrchu, byddwn yn eu rhannu drwy'r dudalen we hon. Bydd y cynlluniau hyn hefyd ar gael i'w gweld mewn digwyddiadau gwybodaeth, a bydd y manylion am y rhain yn cael eu cyhoeddi ar dudalen we’r Lan y Môr a hefyd yn y wasg leol.

Oherwydd y ffordd y caiff y Prosiect ei ariannu a'i weithredu, nid oes unrhyw gynlluniau manwl ar gyfer y cynllun cyfan ar hyn o bryd. Fodd bynnag, wrth ymgymryd â'r broses ddylunio ar bob cam, mae'r cysylltiad â datblygiadau’r dyfodol yn ystyriaeth bob amser, mae hyn yn sicrhau y byddwn yn sicrhau lefel o barhad ar ôl cwblhau'r cynllun.

Gwaith Atgyweirio Arfordirol 2014-15

end content