Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Datblygu Prosiect ac Ymgynghori


Summary (optional)
start content

Mae’r gwaith o ddatblygu a chynllunio’r prosiect wedi bod yn digwydd mewn camau ac mae'n canolbwyntio ar:

  • ymgorffori prif amcanion y prosiect yn nyluniad y prosiect
  • ymgynghori â’r gymuned a budd-ddeiliaid eraill
  • mynd i’r afael â’r effaith amgylcheddol
  • sicrhau cyllid er mwyn gwneud y gwaith

Amcanion y Prosiect

Adnabu'r Cyngor gyfle i gyfuno gwella amddiffynfeydd arfordirol hollbwysig gyda'r gwaith ehangach i gyfrannu at adfywio’r dref. Golyga hyn fod gan y prosiect dri phrif amcan:

  • Darparu gwell amddiffynfeydd arfordirol ar hyd glan y môr er mwyn diogelu trigolion, busnesau ac isadeiledd rhag bygythiad y môr a newid hinsawdd.
  • Cyfuno’r amddiffynfeydd môr gyda gwelliannau amgylcheddol ar hyd y promenâd mewn dull cydlynol er mwyn gwneud y gorau o’r potensial i adfywio a darparu’r lefel angenrheidiol o amddiffyniad arfordirol.
  • Darparu gwelliannau adfywio amgylcheddol i’r promenâd er mwyn cynnig gofodau cyhoeddus modern, cadarn, cynaliadwy a deniadol i drigolion lleol ac er mwyn denu ymwelwyr newydd i’r ardal.

Ymgynghori

Rydym wedi ymgynghori’n helaeth ynglŷn â’r cynlluniau ar gyfer glan y môr ers 2010. Mae digwyddiadau ymgynghori a dyddiau gwybodaeth yn rhoi cyfle i swyddogion gael adborth a sylwadau gan drawstoriad eang o’r gymuned, yn ogystal â rhoi gwybodaeth am gynlluniau ar gyfer y cynllun yn y dyfodol.

Mae gwybodaeth a chynlluniau ar gyfer gwaith arfaethedig ar gael ar ein gwefan ac yn y llyfrgell. Rydym yn hyrwyddo’r ymgynghoriadau hyn yn y wasg leol ac ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Effaith amgylcheddol

Cyn inni ddechrau ar unrhyw waith, rydym yn ymgynghori gydag unigolion a sefydliadau mewnol ac allanol er mwyn sicrhau na fydd y gwaith yn effeithio o gwbl, neu na fydd ond yn effeithio ychydig bach, ar yr amgylchedd, yn cynnwys llystyfiant, bywyd gwyllt a dyfrffosydd sy’n bodoli eisoes. Os adwaenir effaith bosibl, byddwn yn gweithio gyda’r partïon hyn i liniaru cymaint â phosib ar yr effeithiau hyn.   

Ar ddechrau un y prosiect yn 2010, cynhaliwyd Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol ar yr ardal gyfan sydd o fewn cwmpas y prosiect. Edrychai'r asesiad ar bethau megis Ecoleg Forol, Treftadaeth Ddiwylliannol, Prosesau Arfordirol a pha effaith y gallai Prosiect y Glannau ei chael arnynt. Golygai hyn y gallem fynd i’r afael ag unrhyw effeithiau negyddol neu bryderon a godwyd cyn i unrhyw waith ar y safle ddechrau. Adolygwyd a diweddarwyd hyn yn 2013 er mwyn sicrhau na fu unrhyw newidiadau sylweddol ers yr asesiad gwreiddiol.

Yn ystod y broses dylunio ac adeiladu, rydym yn adnabod deunyddiau ecogyfeillgar a chynaliadwy, ac rydym yn eu defnyddio lle bynnag y mae hynny’n ymarferol. Dylanwadir ar y dulliau adeiladu a ddefnyddiwn gan ystyriaethau amgylcheddol hefyd. Er enghraifft, yn achos Cam 1b y gwaith Gwella’r Promenâd, chwalwyd yr hen forglawdd a’i ddefnyddio fel mewnlenwad o dan y promenâd newydd. Yn ogystal â lleihau costau, rhwystrodd hyn swm sylweddol o ‘wastraff’ rhag cael ei anfon i safle tirlenwi.

Aseswyd y mesurau a weithredwyd gennym fel rhan o’r broses dylunio ac adeiladu gan ddefnyddio safonau a gydnabyddir yn rhyngwladol. Dyfarnwyd sgôr ‘Da Iawn’ gan CEEQUAL i waith Cam 1a, a oedd yn cynnwys adeiladu’r grwyn cerrig ym Mhorth Eirias a’r platfform y codwyd yr adeilad arno. Derbyniodd gwaith Cam 1b sgôr ‘Rhagorol’.

Dyfarnodd BREEAM sgôr ‘Rhagorol’ i Borth Eirias. Mae’r dosbarthiad hwn yn cydnabod y safonau a gyrhaeddwyd wrth ddylunio, adeiladu a gweithredu mewn modd cynaliadwy. Yn ogystal â dangos bod arferion gorau’r diwydiant wedi eu defnyddio, mae hyn yn cydnabod bod y dyluniad a’r gwaith adeiladu wedi mynd y tu hwnt i’r rheoliadau gorfodol sydd mewn grym.

Mae mwy o wybodaeth am CEEQUAL a BREEAM ar gael ar:

Cyllid

Gan fod y prosiect yn cynnwys Amddiffyniad Arfordirol a gwaith sy’n gwneud Gwelliannau Amgylcheddol, rydym wedi gallu cael cyllid o amrywiol ffynonellau. Mae agweddau amddiffyn arfordirol y cynllun wedi gallu manteisio ar gyllideb flynyddol gan Lywodraeth Cymru a roddir i’r naill ochr er mwyn ariannu prosiectau amddiffyn yr arfordir ledled Cymru.

Mae’r gwaith o wneud Gwelliannau Amgylcheddol wedi ei ariannu’n bennaf gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, sy’n canolbwyntio ar ardaloedd sydd angen buddsoddiad parhaus er mwyn sbarduno adfywiad hirdymor.

Mae dwy elfen y cynllun wedi derbyn arian gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy hefyd.

ERDF logo

welsh government logo

end content