Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Teithiau Cerdded Llandudno

Summary (optional)
Awydd taith o’r dref? Dyma dair taith gylchol o’r ardaloedd trefol i leoliadau hardd a hanesyddol yng nghefn gwlad mewn cyfnod byr o amser.
start content

Trwyn y Fuwch:

Y pentir calchfaen llai wrth ochr Bae Llandudno gyda hanes o chwarela, gwasg argraffu gynnar a darganfyddiadau o’r oes efydd.

Pa fath o daith gerdded yw hon?

  • Llwybrau: Fflat, anwastad, serth mewn mannau ac yn agos at ymyl rhai clogwyni. Traciau ag wyneb, palmant, gwair a chreigiau. Rhai gatiau mochyn
  • Pellter: 5.1km, 3.2milltir
  • Cŵn: Dylid cadw cŵn dan reolaeth neu ar dennyn; mae defaid a geifr yn pori’n rhydd ar y pentir
  • Graddfa’r daith gerdded: Hawdd / cymedrol
  • Map: Os hoffech chi brynu map sy’n dangos y llwybr hwn, y mapiau y byddwch eu hangen yw’r Explorer OL17. Gallwch fynd draw i wefan Arolwg Ordnans i gael rhagor o wybodaeth neu i brynu eich map, neu mae’r mapiau hyn ar gael i’w prynu mewn nifer o siopau ar y stryd fawr. Gallwch lawrlwytho cerdyn y llwybr ar gyfer y daith hon isod, ond rydyn ni wastad yn argymell mynd â map OS yn ychwanegol at unrhyw daflen

Nant y Gamar:

Ardal hyfryd o laswelltir calchfaen sy’n nodedig am y meryw sy’n tyfu yno. Gallwch ddarganfod hen chwarel, coetir a lleoliad hen ddrysfa.

Pa fath o daith gerdded yw hon?

  • Llwybrau: Dringo’n raddol trwy goetir a dros laswelltir calchfaen. Llwybr glaswelltog, eithaf serth, i lawr bryn. Palmentydd, glaswellt, coetir gydag ychydig o dir anwastad. Gatiau mochyn. Un gamfa gerrig ar ddechrau’r daith
  • Pellter: 5.9km, 3.7 milltir
  • Cŵn: Dylid cadw cŵn dan reolaeth neu ar dennyn; mae defaid a geifr yn pori’n rhydd ar y pentir
  • Graddfa’r daith gerdded: Hawdd / cymedrol
  • Map: Os hoffech chi brynu map sy’n dangos y llwybr hwn, y mapiau y byddwch eu hangen yw’r Explorer OL17. Gallwch fynd draw i wefan Arolwg Ordnans i gael rhagor o wybodaeth neu i brynu eich map, neu mae’r mapiau hyn ar gael i’w prynu mewn nifer o siopau ar y stryd fawr. Gallwch lawrlwytho cerdyn y llwybr ar gyfer y daith hon isod, ond rydyn ni wastad yn argymell mynd â map OS yn ychwanegol at unrhyw daflen

Llanrhos a Deganwy

Gadewch i’ch dychymyg fynd yn wyllt wrth i chi agosáu at weddillion Castell Deganwy.

Pa fath o daith gerdded yw hon?

  • Llwybrau: Rhai llethrau ac ychydig o dir anwastad. Palmentydd, glaswellt a thraciau ag wynebau. Gall fod yn fwdlyd yn amodol ar y tywydd. Camfeydd a giatiau.
  • Pellter: 3.6km, 2.2 milltir
  • Cŵn: Dylid cadw cŵn dan reolaeth neu ar dennyn; mae defaid a geifr yn pori’n rhydd ar y pentir
  • Graddfa’r daith gerdded: Hawdd
  • Map: Os hoffech chi brynu map sy’n dangos y llwybr hwn, y mapiau y byddwch eu hangen yw’r Explorer OL17. Gallwch fynd draw i wefan Arolwg Ordnans i gael rhagor o wybodaeth neu i brynu eich map, neu mae’r mapiau hyn ar gael i’w prynu mewn nifer o siopau ar y stryd fawr. Gallwch lawrlwytho cerdyn y llwybr ar gyfer y daith hon isod, ond rydyn ni wastad yn argymell mynd â map OS yn ychwanegol at unrhyw daflen

Sut ydw i’n cyrraedd yno?

Trwyn y Fuwch:

  • Gyda thrên: Mae yna orsaf yn Llandudno. Rhif Ffôn: 0845 7484950. www.nationalrail.co.uk
  • Gyda bws: Rhif Ffôn: Traveline Cymru 0871 200 22 33. www.travelinecymru.info
  • Gyda Char: O gyffordd 19 ar yr A55, cymerwch yr A470 am Landudno. Cymerwch y troad am Queens Road i Graig y Don

  • Gyda thrên: Mae yna orsaf yn Neganwy (gorsaf lle mae’r trên yn stopio ar gais) Rhif Ffôn: 0845 7484950. www.nationalrail.co.uk
  • Gyda bws: Rhif Ffôn: Traveline Cymru 0871 200 22 33. www.travelinecymru.info
  • Gyda Char: O gyffordd 19 ar yr A55, cymerwch yr A470 am Landudno. Cymerwch y troad am Lanrhos a Deganwy

Byddwch yn barod!

Mapiau

end content