Mae ein toiledau cyhoeddus i gyd ar agor heblaw
- Abergele, Pensarn promenâd (marched a dynion) – ar gau o ganlyniad i fandaliaeth
- Abergele, Water Street (marched a dynion) – ar gau o ganlyniad i fandaliaeth
- Bae Colwyn, Ivy Street - ar gau o ganlyniad i fandaliaeth
- Cerrigydrudion, Tan Lan - ar gau o ganlyniad i fandaliaeth
- Conwy, Canolfan Groeso (anabl) - i'w trwsio cyn hir
- Cyffordd Llandudno - ar gau o ganlyniad i fandaliaeth
- Dwygyfylchi, Ffordd Fairy Glen - cyfleuster anniogel
- Llandudno, Gerddi'r Gogledd Orllewin (wrinalau) - ar gan o ganlyniad i fandaliaeth
- Llandudno, Pwll padlo Traeth y Gogledd, The Parade (dynion yn unig) - ar gan o ganlyniad i fandaliaeth
- Llanddulas (dynion yn unig) - draenau wedi blocio
- Llandudno, Penmorfa (anabl a pod 2) – ar gau o ganlyniad i fandaliaeth
- Llanfairfechan, Ffordd yr Orsaf - cyfleuster anniogel
- Llanfairfechan, Promenâd - i'w trwsio cyn hir
- Llanrwst, Parc Gwydir - gwaith ailddatblygu parhaus
- Penmaenmawr Y Promenâd, ger y Clwb Hwylio - ar gau oherwydd difrod o ganlyniad i storm
- Towyn, Sandbank Road - cyfleuster anniogel
Rhestr o doiledau cyhoeddus yn Sir Conwy.
Oriau agor
Yn ystod misoedd yr haf (o’r Pasg tan yr wythnos gyntaf ym mis Medi)
- Ar agor rhwng 7am a 10am (yn dibynnu ar y lleoliad)
- Ar gau rhwng 7pm a 9pm (yn dibynnu ar y lleoliad)
- Canolfan Groeso Conwy: 9:30am tan 5pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, 10am tan 4pm ar ddydd Sul. Ar gau Dydd Sul y Pasg.
Yn ystod misoedd y gaeaf (o’r ail wythnos ym mis Medi tan y Pasg)
- Ar agor rhwng 7:30am a 10am (yn dibynnu ar y lleoliad)
- Ar gau rhwng 4:30pm a 5:30pm (yn dibynnu ar y lleoliad)
- Canolfan Ymwelwyr y Gogarth: ar gau rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth
- Bydd y toiledau cyhoeddus ar gau ar Ddydd Nadolig a Dydd Calan
- Canolfan Groeso Conwy: 10am tan 1pm, 2pm tan 4pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, ar gau Dydd Sul
Caiff y toiledau sy’n agor ag allweddi RADAR eu cloi ar yr un pryd oherwydd achosion niferus o fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Cwestiynau cyffredin am doiledau cyhoeddus
Oes angen i mi dalu ac os felly, sut?
Mae'n rhaid talu i ddefnyddio rhai o'n cyfleusterau. Mae cyfarwyddiadau ar y drws yn egluro sut i ddefnyddio’r peiriant talu gyda darnau arian. Peidiwch â cheisio dal y drysau ar agor - bydd hyn yn gwneud difrod i’r cloeon ac yn golygu na fydd modd defnyddio’r toiledau.
Pam nad oes yna rywun yn gofalu am bob toiled cyhoeddus?
Bydd staff ar y safle drwy’r dydd yn y cyfleusterau prysuraf a bydd staff eraill yn teithio rhwng toiledau cyhoeddus.
Cynllun Toiledau Cymunedol
Mae’r Cynllun Toiledau Cymunedol yn cael ei ariannu a’i reoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac mae’n caniatáu i’r cyhoedd ddefnyddio cyfleusterau toiled i gymeradwyo busnesau lleol yn ystod eu horiau agor.
Mae croeso i chi ddefnyddio'r toiledau hyn heb brynu dim os ydych yn gweld yr arwydd hwn.
Rhestr o doiledau cymunedol yn Sir Conwy
Oes gennych chi ddiddordeb i’ch busnes ymuno â’r cynllun? Am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.