top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
cy Cartref Chwaraeon a ffitrwydd Ystafelloedd Ffitrwydd
start content

Ystafelloedd Ffitrwydd

Mae ein hystafelloedd ffitrwydd yn cynnwys yr offer cardio Technogym diweddaraf ac amrywiaeth eang o offer ymwrthedd.  Gallwch ddod o hyd i’r amgylchedd iawn i chi gyflawni eich nodau iechyd  a lles.

Bydd ein cyfres ‘Skill Line’, sydd wedi ei ddatblygu gan athletwyr Olympaidd, yn eich helpu i ddatblygu eich hyfforddiant i’r lefel nesaf ac eich galluogi  i ddod a’ch hyfforddiant awyr agored i mewn trwy ei gysylltu gyda Strava.

Ar gyfer aelodau sydd eisiau gwella cryfder a chyflyru, mae offer gyda phlatiau a meinciau Olympaidd wedi cael eu hychwanegu i’n hystafelloedd ffitrwydd er mwyn symud eich hyfforddiant i’r lefel nesaf.

Mae ardaloedd hyfforddi gweithredol newydd gyda slediau, TRX, rhaffau a pheiriannau sgïo. Mae’r ardaloedd hyn yn llawn ategolion er mwyn ychwanegu amrywiaeth at eich sesiynau.  

 

Ymarfer Corff Grŵp

Mae ymarfer corff grŵp yn ffordd wych i adeiladu eich ffitrwydd ac amrywio eich ymarfer corff.  Mae ein dosbarthiadau yn cael eu rhedeg gan hyfforddwyr hynod o gymwys.  Mae gan ein rhaglen ymarfer grŵp dros 200 o ddosbarthiadau’r wythnos, yn amrywio o Ioga a Philates i Effaith Fetabolig a’r dosbarthiadau Les Mills diweddaraf. Rydym yn sicr y byddwch yn dod o hyd i rywbeth sy’n eich gweddu chi.

 

Rydym hefyd wedi datblygu’r stiwdio Les Mills ar-lein cyntaf yng Ngogledd Cymru.  Mae’r stiwdio yn cynnwys sgrin 10m x 5m gyda goleuadau o’r radd flaenaf i chi fwynhau profiad rhyngweithiol megis ‘The Trip’. Mae dosbarthiadau eraill ar gael megis BodyCombat, RPM, Sprint and Body Balance.

 

Rhaglenni wedi’u personoli

Fel aelod Ffit Conwy, gallwch ddewis cael rhaglen ymarfer wedi’i deilwra ar eich cyfer gan un o’r tîm ffitrwydd cymwys.  Mae adolygiadau rhaglen rheolaidd yn cael eu cynnwys yn yr aelodaeth er mwyn sicrhau eich bod yn parhau i wneud cynnydd tuag at eich nodau.  

Nid yw’r gwasanaeth hwn wedi’i gyfyngu i’r ystafell ffitrwydd; bydd ein tîm hefyd yn eich cynghori ar ba weithgareddau a/neu ddosbarthiadau ymarfer grŵp fyddwch yn elwa fwyaf ohonynt ac yn eich gweddu chi. Cysylltwch â ni heddiw i archebu apwyntiad gydag aelod o’r tîm ffitrwydd i ddechrau arni.

 

Prisiau

Ystafell FfitrwyddPris
Sesiwn Ystafell Ffitrwydd 60 munud (Oedolion) £6.90
Sesiwn Ystafell Ffitrwydd 60 munud (Consesiwn) £4.15
10 x Sesiwn Ystafell Ffitrwydd (Oedolion) £55.20
10 x Sesiwn Ystafell Ffitrwydd (Consesiwn) £33.20
end content