top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
cy Cartref Chwaraeon a ffitrwydd Caeau Pêl-droed
start content

Caeau Pêl-droed

Mae gan Gonwy nifer o gaeau pêl-droed wedi’u lleoli mewn gwahanol ganolfannau hamdden ar draws y sir:

Canolfan Hamdden Abergele

  • Cae pob tywydd 11 bob ochr y gellir ei rannu yn 2 gae llai ar gyfer 6 bob ochr.



Canolfan Hamdden Colwyn

  • Cae pob tywydd 11 bob ochr y gellir ei rannu yn 3 chae llai ar gyfer 7 bob ochr.
  • Mae'r cae hwn yn cynnwys llifoleuadau felly gellir ei ddefnyddio yn ystod misoedd tywyll y gaeaf.



Canolfan Hamdden Dyffryn Conwy

  • Cae pob tywydd ar gael fel 2 gae 6 bob ochr.



Eirias (fe’i elwir yn ‘ysgubor’ yn lleol)

  • Cae 3G 9 bob ochr dan do o'r radd flaenaf gydag wyneb rwber mâl y gellir ei rannu yn 2 gae 7 bob ochr, neu 4 cae 5 bob ochr, neu ar gyfer plant iau rydym hefyd yn cynnig 4 cae 4 bob ochr.



Canolfan Hamdden John Bright

  • 2 gae gwair 11 bob ochr ar gael gyda’r nos ac ar benwythnosau.
  • 1 cae pob tywydd ar gael fel cae 11 bob ochr neu fel 3 chae 7 bob ochr.
  • 1 cae 3G rwber mâl, yn ddelfrydol ar gyfer gemau 9 bob ochr.
  • Unwaith eto, mae’r caeau ar gael gyda'r nos ac ar benwythnosau ac mae llifoleuadau i'w defnyddio yn ystod y misoedd tywyll.



Canolfan Chwaraeon Ysgol Aberconwy

  • Cae gwair 11 bob ochr ar gael gyda’r nos ac ar benwythnosau.
  • Cae pob tywydd ar gael fel cae 11 bob ochr neu fel 3 chae 7 bob ochr.
  • Mae’r caeau ar gael gyda'r nos ac ar benwythnosau ac mae llifoleuadau i'w defnyddio yn ystod y misoedd tywyll.

 

 

 

end content