Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Hamdden, Chwaraeon ac Iechyd Chwaraeon a Ffitrwydd Ystafell Weithgareddau Hwb Yr Hen Ysgol

Ystafell Weithgareddau Hwb Yr Hen Ysgol


Summary (optional)
start content

Dosbarthiadau Ffitrwydd

Mae dosbarthiadau ffitrwydd i hyd at 20 o bobl yn cael eu cynnig yn Hwb yr Hen Ysgol gan gynnwys seiclo stiwdio, ioga, pilates, dosbarth gweithio’r coesau y pen-ôl a’r bol a llawer mwy.
Mae'r ystafell ar gael i'w llogi ar gyfer dosbarthiadau ffitrwydd preifat hefyd.

Dosbarthiadau rhyngweithiol

Rydym wedi ymuno â ‘Fitness on Demand’ sef llwyfan darparu ffitrwydd rhithwir sy’n flaengar yn y maes. Mae’r llwyfan hwn yn cynnig ystod eang o raglenni, yn amrywio o 5 i 60 munud o hyd, ac yn cynnwys yr holl weithgareddau diweddaraf ym maes grwpiau ffitrwydd. Gall defnyddwyr drochi eu hunain mewn ffurfiau stiwdio poblogaidd fel ioga, beicio/spin, ymarferion craidd, dawns a mwy.

Gellir addasu’r cynnwys i greu profiad rhithwir arbennig sy’n adlewyrchu eich brand, gan gynnwys rhaglenni gan hyfforddwyr a brandiau mwyaf adnabyddus y diwydiant fel Jillian Michaels, Les Mills Virtual, Zumba®, SH1FT, Power Music Group Rx, a mwy.

Ar gael ar alw
Mae’r rhyngwyneb ciosg hunanwasanaeth digidol yn galluogi defnyddwyr i ddechrau’r ymarfer corff yn eu hamserlen ar unwaith.

Chwarae yn ôl
Gellir trefnu bod sesiynau ymarfer corff yn cychwyn yn awtomatig ar amseroedd penodol. Gallwch rannu'ch amserlen ddosbarthiadau yn hawdd i’w gwylio ar unrhyw declyn.

end content