Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Parcio Cartrefi Modur mewn Meysydd Parcio Talu ac Arddangos


Summary (optional)
Caiff faniau gwersylla a chartrefi modur barcio yn rhai o’n meysydd parcio talu ac arddangos.
start content

Ceir mannau parcio pwrpasol i Faniau Gwersylla a Chartrefi Modur ym maes parcio Morfa Bach yng Nghonwy, ac mae mannau addas i barcio cerbydau o'r fath ym maes parcio Maelgwyn Road yn Llandudno.

Mae’r gofodau hyn yn fwy ar gyfer faniau gwersylla a chartrefi modur. Nid oes ganddynt bwyntiau cysylltu trydan na chyfleusterau gwaredu gwastraff.

Gellir parcio faniau gwersylla a chartrefi modur hefyd yn rhai o’n meysydd parcio eraill sydd heb rwystrau uchder. Rhaid i chi barcio eich fan wersylla neu’ch cartref modur yn gyfan gwbl o fewn llinellau’r mannau parcio.

Ni chaniateir gwersylla dros nos yn unrhyw un o’n meysydd parcio.

end content