Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Mannau Parcio i Bobl Anabl


Summary (optional)
Gwybodaeth am bwy all fod yn gymwys ar gyfer man parcio i bobl anabl, beth mae'r broses yn ei olygu, a sut i wneud cais.
start content

Beth yw man parcio penodol i bobl anabl?

Man parcio i bobl anabl yw ardal barcio bwrpasol wedi’i beintio i drigolion cymwys allu parcio mor agos at eu cartref â phosibl.

Mae hwn at ddefnydd preswyl yn unig pan nad oes man parcio oddi ar y stryd wrth eich cartref. Ni allwch wneud cais am fan parcio mewn unrhyw leoliad arall, fel tŷ aelod o’ch teulu.

Ydw i’n gymwys i gael man parcio i bobl anabl?

Nid ydych yn gymwys i gael man parcio i bobl anabl os

  • Oes gennych ddreif yn barod
  • Yw’n ymarferol i chi barcio tu mewn i derfyn eich cartref
  • Oes modd creu man parcio y tu mewn i derfyn eich cartref
  • Nad ydych yn gyrru a bod gennych ofalwr abl (Rydym yn credu ei bod yn rhesymol disgwyl i’ch gofalwr stopio’r car er mwyn i chi fynd allan o’r car ac yna symud i fan parcio, neu i symud eich cadair olwyn i'ch cartref o fan parcio eich car)
  • Ydych yn byw ar ffordd breifat neu ffordd heb ei mabwysiadu

Os nad yw'n bosibl darparu Man Parcio i Bobl Anabl, efallai y byddwch am ofyn am gyngor a chymorth pellach gan Therapydd Galwedigaethol.

Gallwch wneud cais i gael eich asesu am le parcio i bobl anabl os ydych yn bodloni’r holl feini prawf canlynol

  • Rydych yn ddeiliad Bathodyn Glas, ac
  • Mae gennych gar wedi ei gofrestru yn eich cyfeiriad ac mae’r ceidwad cofrestredig yn byw yno, ac
  • Rydych yn byw yn y cyfeiriad am fwy na 10 mis y flwyddyn, a
  • Dydych chi’n methu cerdded neu bron yn methu cerdded, a
  • Dydych chi’n methu symud eich hun mewn cadair olwyn neu’n methu cael eich helpu i symud mewn cadair olwyn (mae hyn yn cynnwys os oes gan eich gofalwr broblemau iechyd sy’n ei gwneud yn anodd iddynt symud eich cadair olwyn), ac
  • Rydych chi’n cael y gyfradd uwch o Daliad Annibyniaeth Bersonol ar gyfer Symudedd (os ydych chi dan 65 oed) neu Lwfans Gweini (os ydych yn 65 oed neu’n hyn), a
  • Dydych chi’n methu dod o hyd i le parcio yn agos at eich cartref am y rhan fwyaf o’r amser ar y rhan fwyaf o ddyddiau

Neu os

  • Oes gennych anabledd sydd angen goruchwyliaeth gyson, gan nad ydych yn ymwybodol o berygl neu bod gennych anawsterau ymddygiad ac yn methu dod o hyd i le parcio yn agos at eich cartref am y rhan fwyaf o’r amser ar y rhan fwyaf o ddyddiau

Os yw’r rhain yn berthnasol i chi, bydd Therapydd Galwedigaethol yn cwblhau asesiad. Os yw’r Therapydd Galwedigaethol yn argymell man parcio i bobl anabl, byddant yn anfon atgyfeiriad at ein hadran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau a fydd yn ystyried a yw hyn yn ymarferol.

A oes lleoedd na allaf gael man parcio i bobl anabl ynddynt?

Mae angen i ni wneud yn siŵr y byddai man parcio newydd i bobl anabl yn ddiogel i chi a defnyddwyr eraill y ffordd.

Hyd yn oed os ydych yn gymwys i gael man parcio i bobl anabl, ni allwn roi un ar y ffordd yn agos i’ch cartref os

  • Yw parcio wedi ei wahardd
  • Yw’r terfyn cyflymder yn fwy na 40mya
  • Yw gwelededd wedi ei gyfyngu (er enghraifft ar ben allt neu’n agos at gyffordd)
  • Oes unrhyw berygl arall i ddiogelwch ar y ffyrdd neu os byddai’r man parcio yn achosi rhwystr
  • Yw’r man parcio newydd yn cynyddu cyfanswm y mannau parcio i bobl anabl ar y stryd i fwy na 5%

Oes angen i mi dalu?

Oes. Byddwn yn gofyn i chi am daliad o £574.80 fel cyfraniad. Ni fyddwn yn codi’r tâl hwn nes fod y man parcio wedi ei gwblhau.

Beth yw’r broses?

Cam Un

Bydd Therapydd Galwedigaethol yn cwblhau asesiad. Bydd hyn yn cynnwys ymweld â chi yn eich cartref. Byddant yn gofyn am eich caniatâd i gysylltu â’ch meddyg neu ymgynghorydd os oes angen mwy o wybodaeth arnynt. Os yw’r Therapydd Galwedigaethol yn argymell man parcio i bobl anabl, byddant yn anfon atgyfeiriad at ein hadran yr Amgylchedd, Ffordd a Chyfleusterau.

Cam Dau

Bydd ein hadran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau yn dod i asesu eich stryd i weld a allwn ni ddarparu man parcio i bobl anabl yn ddiogel. Ni all man parcio newydd i bobl anabl achosi perygl i ddefnyddwyr eraill y ffordd nac amharu ar gydbwysedd lleoedd parcio i drigolion yn yr ardal.

Cam Tri

Os gallwn ni gynnig man parcio i chi’n ddiogel, byddwn yn cytuno ar y lleoliad gyda chi. Efallai na fyddwn yn gallu cynnig lle i chi yn syth y tu allan i’ch cartref, ond byddwn yn ei osod mor agos ag y gallwn ni.

Cam Pedwar

Byddwn yn gwneud Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ar gyfer man parcio i bobl anabl ar y briffordd. Dogfen gyfreithiol yw hon sy’n ein caniatáu i ychwanegu’r marciau ffordd ar gyfer man parcio i bobl anabl. Mae hefyd yn golygu y gellir rhoi Hysbysiad Tâl Cosb (tocyn parcio) i yrwyr sy’n parcio yn y man parcio heb awdurdod.

I greu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, rhaid i ni hysbysebu yn y wasg a gosod hysbysiadau ar y stryd yn gofyn am unrhyw wrthwynebiadau. Rhaid i ni ystyried pob gwrthwynebiad a'u datrys cyn y gallwn ddechrau’r gwaith. Os na allwn ddatrys y gwrthwynebiadau, efallai na fydd modd i ni ddarparu man parcio i bobl anabl.

Cam Pump

Byddwn yn dod i farcio eich man parcio newydd dynodedig i breswylydd anabl.

Cam Chwech

Fe fyddwn ni’n rhoi trwydded preswylydd gyda’ch man parcio i chi. Fe fydd angen i chi arddangos eich trwydded preswylydd a’ch bathodyn glas pan fyddwch chi’n defnyddio’r man parcio.

Pa mor hir y bydd yn cymryd?

Gall gymryd rhwng 6 mis a 18 mis wedi’r atgyfeiriad gan y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol i farcio'r man parcio ar eich ffordd.

Sut allaf wneud cais am asesiad man parcio?

Drwy'r post:

Tîm Un Pwynt Mynediad
Bwlch Post 1
Conwy
LL30 9GN

Ffôn: 0300 456 1111
E-bost: lles@conwy.gov.uk

 

Beth os nad oes bellach angen man parcio yn fy nghyfeiriad?

Os nad oes angen man parcio i bobl anabl arnoch chi bellach, neu nad yw deiliad y Bathodyn Glas bellach yn byw yn y cyfeiriad, rhowch wybod i ni ar AFfCh@conwy.gov.uk neu drwy ffonio 01492 575337.

end content