Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Llwythi annormal


Summary (optional)
Mae Cyngor Conwy, ynghyd â Heddlu Gogledd Cymru, yn gyfrifol am reoli symudiad llwythi annormal, nad oes modd eu gwahanu, o fewn priffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
start content

Mae'r rheoliadau ynghylch symud llwythi annormal yn cael eu cynnwys yn Offeryn Statudol 2003 y Llywodraeth, rhif 1998 – Gorchymyn Cerbydau Ffyrdd (Awdurdodi Mathau Arbennig) (Cyffredinol) 2003.

Mae llwyth annormal yn gerbyd:

  • Llwyth echel o fwy na 10,000 cilogram ar gyfer echel sengl nad ydyw'n gyrru a 11,500 cilogram ar gyfer echel gyrru sengl    
  • Mwy na 2.9 metr o led
  • Yn fwy na 18.65 metr o hyd
  • Pwysau o fwy na 44,000 cilogram

Hysbysiadau

  • Gweler y tabl isod am gyfnodau rhybudd.
  • E-bost i llwythianarferol@conwy.gov.uk 
  • Dylai cludwyr hefyd gyflwyno Ffurflen Indemniad yn flynyddol i indemnio'r awdurdod ar gyfer pob symudiad.
  • Rhaid rhoi gwybod i Heddlu Gogledd Cymru ar wahân.
  • Gallwch hefyd gysylltu â ESDAL i'w hysbysu o'r cais llwyth annormal.


Pwysau Cerbyd Gros

Dimensiynau Cerbyd LlwythogCam Gweithredu
C&U < Pwysau Gros   > 80,000 kg 2 ddiwrnod clir o rybudd ac indemniad i'r awdurdodau priffyrdd a phontydd 
80,000 kg < Pwysau   Gros  > 150,000kg 2 ddiwrnod clir o rybudd i'r Heddlu a 5 diwrnod clir o rybudd ac indemniad i'r awdurdodau priffyrdd a phontydd 
150,000 kg < Pwysau   Gros  Ffurflen Archeb Arbennig Priffyrdd Lloegr a NMWTRA a 5 diwrnod clir o rybudd i'r Heddlu a 5 diwrnod clir o rybudd ac indemniad i'r awdurdodau priffyrdd a phontydd



Lled Cerbyd Llwythog

Dimensiynau Cerbyd LlwythogCam Gweithredu
2.9m < Lled  > 5.0m 2 ddiwrnod clir o rybudd i'r Heddlu
5.0m < Lled  > 6.1m Trwydded VR1 Priffyrdd Lloegr a NMWTRA a 2 ddiwrnod clir o rybudd i'r Heddlu
6.1m < Lled Gorchymyn Arbennig Priffyrdd Lloegr a NMWTRA a 5 diwrnod clir o rybudd i'r Heddlu a 5 diwrnod clir o rybudd ac indemniad i'r awdurdodau priffyrdd a phontydd



Hyd Cerbyd Llwythog

Dimensiynau Cerbyd LlwythogCam Gweithredu
18.65m < Hyd Anhyblyg   > 30m 2 ddiwrnod clir o rybudd i'r Heddlu
30m < Hyd Gorchymyn Arbennig Priffyrdd Lloegr a NMWTRA a 5 diwrnod clir o rybudd i'r Heddlu a 5 diwrnod clir o rybudd ac indemniad i'r awdurdodau priffyrdd a phontydd 

 

end content