Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Parcio, ffyrdd a theithio Ffyrdd a Phalmentydd Ymholiadau Pridiannau Tir Lleol a'r Gofrestr Priffyrdd

Ymholiadau Pridiannau Tir Lleol a'r Gofrestr Priffyrdd


Summary (optional)
start content

Sut i gynnal Chwiliad Pridiannau Tir Lleol Llawn

I gael gwybodaeth am chwiliadau pridiannau tir lleol llawn (LLC1 a CON 29) sy'n cynnwys cwestiynau priffyrdd, ewch i dudalen we Chwiliadau Pridiannau Tir

Sut ydw i'n canfod a yw ffordd wedi'i mabwysiadu (ei chynnal yn gyhoeddus)?

Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon ar Find My Street (Saesneg yn unig). Mae'r gofrestr yn rhestru pob ffordd mae gan y Cyngor ddyletswydd i'w chynnal, ffyrdd sydd ar fin cael eu mabwysiadu dan gytundebau Adran 28, llwybrau cyhoeddus a llwybrau ceffylau.  Gallwn ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig a yw ffordd yn cael ei chynnal yn gyhoeddus ai peidio, mewn ymateb i geisiadau ysgrifenedig ffurfiol. Mae tâl am hyn - gweler isod.

Sut ydw i'n cadarnhau hyd y briffordd?

Gallwn ddarparu cynllun sy'n dangos hyd y briffordd, mewn ymateb i geisiadau ysgrifenedig ffurfiol. Mae tâl am hyn - gweler isod.

Sut ydw i'n dod o hyd i wybodaeth am gynlluniau ffyrdd a thrafnidiaeth yn Sir Conwy?

Gallwch weld Gorchmynion Rheoleiddio Traffig arfaethedig a rhai a gyflwynwyd yn ddiweddar ar ein gwefan. Mae’r rhain yn cynnwys newidiadau fel terfynau cyflymder a pharcio.

Gallwn ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig am gynigion ffyrdd yn Sir Conwy, mewn ymateb i geisiadau ysgrifenedig ffurfiol. Mae tâl am hyn - gweler isod.

Taliadau

Ar gyfer atebion ysgrifenedig y tu allan i’r weithdrefn Con 29.
Mae'r cynnyrch hyn nawr yn destun TAW ar gyfradd o 20%

Ffioedd Safonol

£90 + TAW - hyd at dri chwestiwn a chynllun priffyrdd
£24 + TAW  - am bob cwestiwn ychwanegol

£24 + TAW – copi o ddogfen gyfreithiol fel Cytundeb Adran 38

£132 + TAW - barn ac ymholiad mabwysiadu priffyrdd mewn perthynas â darn o briffordd ddosbarthiadol neu briffordd ddi-ddosbarth yn y Sir - Uchafswm hyd y safle: 0.5 cilomedr.

£234 + TAW - ymweliad safle, barn ac ymholiad mabwysiadu priffyrdd mewn perthynas â darn o briffordd ddosbarthiadol neu briffordd ddi-ddosbarth yn y Sir - Uchafswm hyd y safle: 0.5 cilomedr.

Manylion cysylltu

  • Ar gyfer ymholiadau anffurfiol, ffoniwch 01492 575337. Sylwch nad yw'n bosibl ateb ymholiadau o ran hyd priffyrdd dros y ffôn.
  • Ebost: affch@conwy.gov.uk
end content