Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Cynllunio, Rheoli Adeiladu, a Chadwraeth Pridiannau Tir Lleol Cyflwyno Chwiliad Pridiannau Tir Awdurdod Lleol

Cyflwyno Chwiliad Pridiannau Tir Awdurdod Lleol


Summary (optional)
Gallwch gyflwyno chwiliadau yn electronig gan ddefnyddio’r ffurflen gais Pridiannau Tir lleol, neu drwy’r Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol.
start content

Cyflwyno Chwiliadau Electronig

Mae’n hawdd iawn cyflwyno chwiliad electronig. Unwaith rydych wedi llenwi ffurflen gofrestru syml, byddwch yn derbyn enw defnyddiwr a chyfrinair ac yna gallwch archebu eich chwiliad(au).

Beth i’w gyflwyno gyda’ch chwiliad

Er mwyn osgoi oedi, rhaid cyflwyno cynlluniau gyda’ch chwiliad. Rhaid i gynlluniau ddangos ffin yr eiddo wedi’i farcio’n glir a’r ffyrdd a’r eiddo cyfagos. Cofiwch gynnwys yr holl ymholiadau dewisol ac ychwanegol wrth gyflwyno’ch chwiliad.

Ffioedd a sut i dalu

Ffioedd Pridiannau Tir Lleol

Ein ffi am chwiliad electronig (LLC1 a CON 29 (R)) yw £100 gan gynnwys TAW.

Gydag anfoneb fisol y telir am chwiliadau, a gallwch eu talu’n electronig (BACS), neu gyda cherdyn debyd neu gredyd.

Amser Ymateb

Ceisiwn brosesu a dychwelyd eich chwiliad wedi’i gwblhau o fewn 2 i 4 diwrnod gwaith. Byddwch yn cael canlyniadau eich chwiliad yn electronig.

Rydym hefyd yn darparu Pecyn Gwybodaeth y Cyngor am ddim gyda chanlyniad pob chwiliad llawn. Mae'n cynnwys gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer holl wasanaethau'r Cyngor a allai fod yn ddefnyddiol i bobl sy'n symud tŷ.

Gwefan NLIS

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content