Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Beth yw Chwiliad Pridiannau Tir Lleol?


Summary (optional)
Fel arfer, cyfreithiwr sy’n cychwyn cais am chwiliad Pridiannau Tir Lleol ar ran ei gleient/chlient. Mae cynnal chwiliad cofrestr Pridiannau Tir Lleol yn rhan o’r broses o drosglwyddo h.y. prynu, gwerthu neu ail-forgeisio tir ac eiddo.
start content

Yr Adrannau canlynol o'r Cyngor sy'n ateb y chwiliad i'r Pridiannau Tir Lleol:

  • Cynllunio
  • Priffyrdd
  • Rheoli Adeiladu
  • Gwasanaethau Amgylcheddol
  • Gwarchod y Cyhoedd

Mae rhan o Barc Cenedlaethol Eryri ym Mwrdeistref Sirol Conwy. Petai eiddo/tir yn yr ardal honno, byddai'r Uned Pridiannau Tir Lleol yn cael yr wybodaeth gynllunio berthnasol gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Mae'r chwiliad hwn yn cynnwys cyfres o gwestiynau safonol sydd wedi eu cynllunio i roi gymaint ag y bo modd o wybodaeth am yr eiddo i unrhyw ddarpar brynwr. Mae hyn er mwyn sicrhau ei fod ef/hi yn ymwybodol o unrhyw faterion lleol sy'n effeithio ar yr eiddo y maent yn bwriadu ei brynu, fel nad oes unrhyw wybodaeth ddirgel.

Fel arfer, cyflwynir cais am chwiliad mewn dwy ran: Ffurflen LLC1 a Ffurflen CON29. Mae'r ffurflenni hyn ar gael gan gyflenwyr papurau cyfreithiol neu Gymdeithas y Gyfraith.

Ffurflen LLC1, Cais am Chwiliad Swyddogol o'r Gofrestr. Bydd ymateb i gais o'r fath e.e. yn dangos os yw eiddo mewn ardal gadwraeth neu yn adeilad cofrestredig, neu os oes unrhyw goed ar yr eiddo yn cael eu diogelu gan orchymyn diogelu coed ac ati.

Mae ymateb i ffurflen safonol CON 29 yn cynnwys gwybodaeth fel Cynlluniau Lleol ar gyfer yr ardal, rheoliadau adeiladu, penderfyniadau cynllunio sy'n effeithio ar eiddo, cynlluniau trafnidiaeth, cytundebau ffyrdd, ac os yw ffyrdd ynghlwm â'r eiddo yn cael eu cynnal gan y cyhoedd neu os ydynt yn ffyrdd preifat. Gall ymatebion hefyd ddangos os effeithir ar yr eiddo gan dir llygredig. Gellir gwneud Ymholiadau "Dewisol" pellach i'r Awdurdod Lleol drwy gyflwyno ffurflen CON29 (O). Mae 19 cwestiwn dewisol arall ar y ffurflen hon y gellir ceisio amdanynt, gan gynnwys Rhybuddion Atal Sŵn, Diogelwch Bwyd. Mae Cwestiynau 4 i 21 yn costio £12.00 yr un, ac mae’r Cwestiwn Tir Comin 22 yn costio £16.80 yn cynnwys TAW.

Ffioedd Pridiannau Tir Lleol

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content