Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Sut y penderfynir ar gais


Summary (optional)
start content

Bydd y swyddog achos yn cymryd llawer o faterion i ystyriaeth wrth ystyried cais, gan gynnwys:

  • Polisïau cynllunio lleol a chenedlaethol,
  • Safbwyntiau gwasanaethau eraill y cyngor fel Iechyd yr Amgylchedd,
  • Safbwyntiau gwasanaethau cyngor sir fel Priffyrdd,
  • Safbwyntiau cyrff allanol fel Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Sylwadau a ddaeth i law gan bobl leol - (ni fydd gwrthwynebu cais yn golygu’n awtomatig y bydd yn cael ei wrthod).

Bydd y swyddog achos wedyn yn dod i farn gytbwys.

Mae penderfyniadau ar y rhan fwyaf o geisiadau cynllunio’n cael eu gwneud gan swyddogion cynllunio'r Cyngor o dan bwerau dirprwyedig.

Fodd bynnag, os yw'r cynnig yn fawr neu’n ddadleuol iawn, bydd fel arfer yn cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Cynllunio am benderfyniad. Os yw'r cais yn cael ei benderfynu gan y Pwyllgor Cynllunio y rhai sydd wedi'u cofrestru i siarad yn y cyfarfod yn unig a fydd yn cael hysbysiad ynglŷn â dyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod.

Gall y Pwyllgor Cynllunio, wedi’u ffurfio o Gynghorwyr, benderfynu ar geisiadau mwy, mwy cymhleth neu fwy dadleuol. Bydd Cynghorwyr yn cael adroddiad sy'n cynnwys manylion y sylwadau a wnaed a'r materion a godwyd, ynghyd ag argymhelliad y swyddog. Bydd yna hefyd gyflwyniad o'r cais gan swyddog, fel arfer gyda chynlluniau a lluniau o'r safle.
end content