Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Compostio Cartref


Summary (optional)
Gellir compostio dros 30% o wastraff eich cartref. Drwy eu tynnu o’r bin byddwch yn arbed arian, gwarchod yr amgylchedd a lleihau'r angen am safleoedd tirlenwi a llosgyddion.
start content

Pam Compostio?

Home-composterMae compostio cartref yn fuddiol i’ch gardd a’r amgylchedd, ac mae’n hawdd ac yn hwyl!

Compostio yw ffordd natur o ailgylchu. Mae compostio deunydd y gegin a’r ardd yn ddewis amgen gwych i wrtaith artiffisial drud a mawn.

Gall compost wedi’i wneud gartref arbed arian i chi, wella pridd eich gardd, ac arbed dŵr drwy helpu i'r pridd gynnal ei leithder.

Mae tannau gardd yn llygru ac yn creu niwsans – mae compostio yn osgoi'r angen i losgi.

Compostio yw’r ffordd hawsaf o ailgylchu eich gwastraff.  Gallwch ei wneud gartref a chynnwys y teulu cyfan!

Sut mae'n gweithio?

  1. Casglwch holl wastraff addas y gegin a’r ardd yn rheolaidd (anelwch am hanner ‘gwyrdd’ a hanner ‘brown’)
  2. Torrwch ddeunyddiau’n fân, i ddarnau llai na 15cm (6 modfedd)
  3. Rhowch bopeth yn eich bin compost ar bridd moel
  4. Gosodwch hen ddarn o garped ar ei ben i’w gadw'n gynnes
  5. Trowch gynnwys y compostiwr yn rheolaidd
  6. Disgwyliwch i’r angenfilod bychain (o organebau bach iawn i bryfed genwair) ddadelfennu’r gwastraff a chynhyrchu cyflenwad o gompost am ddim!

Beth sy’n mynd i’r bin compost?

Gwyrdd (ffres)

  • Croen llysiau
  • Croen a chanol ffrwythau
  • Bagiau te a gwaddodion coffi
  • Plisgyn wyau wedi’u malu
  • Gwastraff anifeiliaid sy’n bwyta llysiau (megis cwningod, bochdewion a cheffylau)
  • Glaswellt
  • Chwyn
  • Torion
  • Deunyddiau naturiol megis gwlân a gwallt
  • Llwch y sugnwr llwch

Brown (hen a sych)

  • Rholyn papur cegin a phapur wedi’i rwygo
  • Gwellt, gwair a llwch llif
  • Bocsys wyau a thiwbiau papur toiled
  • Toriadau planhigion a brigau
  • Dail

Beth na ddylai fynd i’r bin compost?

  • Hancesi papur wedi’u defnyddio
  • Cig, pysgod neu gynnyrch llaeth
  • Gwastraff anifeiliaid sy’n bwyta cig (megis cŵn neu gathod)
  • Sbarion bwyd wedi’i goginio
  • Cylchgronau sglein
  • Planhigion gyda haint
  • Gwreiddiau chwyn parhaol (megis dant y llew)
  • Cewynnau tafladwy
end content