Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Taliadau ar-lein: 3D Secure


Summary (optional)
I ddefnyddio'r cyfleuster hwn, mae'n rhaid i ddarparwr eich cerdyn fod yn cymryd rhan yn y cynllun 3D Secure.
start content

Beth yw 3D-Secure?

Mae 3D Secure (sydd hefyd yn cael ei alw yn Verified by Visa a MasterCard Secure Code) yn gweithio fel y system Chip & Pin pan fyddwch yn prynu eitemau ar-lein ac mae'n eich diogelu trwy ofyn am gyfrinair cyfrinachol.  

Pam mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi dewis defnyddio 3D Secure?

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn rhoi blaenoriaeth uchel iawn i ddiogelwch taliadau ac rydym wedi dewis defnyddio'r system dilysu taliadau (3D Secure) fel bod gennych sicrwydd ein bod yn ymdrin â'ch taliad mewn modd diogel.

Mae 3D Secure yn caniatáu i ddarparwr eich cerdyn ddilysu deilydd y cerdyn yn llawn yn ystod y broses o dalu ar-lein, gan leihau'r tebygolrwydd y bydd y cerdyn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer twyll ariannol. 

Sut fydda i'n gwybod bod darparwr fy ngherdyn yn cymryd rhan yn y cynllun?

Os yw darparwr eich cerdyn yn cymryd rhan yn y cynllun 3D Secure a'ch bod chi eisoes wedi cofrestru, byddwn yn gofyn i chi roi eich cyfrinair yn ystod y broses o drosglwyddo'r taliad.

Os nad ydych wedi cofrestru, byddwch yn cael cyfle i wneud hynny.

Beth os nad yw darparwr fy ngherdyn yn cymryd rhan yn y cynllun ar hyn o bryd?

Os nad yw darparwr eich cerdyn yn cymryd rhan yn y cynllun, ni fyddwch yn cael cyfle i gofrestru ac ni fydd eich taliad yn cael ei brosesu.

Ewch i'r adran Dulliau o Dalu i'r Awdurdod i weld dulliau eraill o dalu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

end content