Grant Hunan Ynysu o £500
Os cawsoch chi eich cysylltu gan wasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu Gig Cymru (TTP) ac wedi cael eich cynghori i hunan-ynysu, efallai byddwch yn gymwys am Gefnogaeth Ariannol.
Neu
Os ydych yn rhiant/gofalwr plentyn o oedran hyd at ac yn cynnwys Blwyddyn 8 (neu hyd at 25 oed os os gan y dysgwr anghenion lluosog a chymhleth) y gofynnwyd iddynt hunan-ynysu am 10 diwrnod neu fwy gan yr ysgol, lleoliad gofal plant neu Profi, Olrhain a Diogelu o ganlyniad i achos o Covid-19 yn yr ysgol, lleoliad gofal plant neu addysg bellach, efallai y bydd gennych hawl i Gymorth Ariannol.
Mae'r ffurflen gais ar gael yma.
Cynllun Gwella Tâl Salwch Statudol
Dim ond gweithwyr gofal nad yw eu cyflogwyr yn darparu tâl llawn am absenoldeb salwch sy'n gymwys ar gyfer y taliad hwn. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr gofal a gyflogir gan gartrefi gofal cofrestredig a gwasanaethau cymorth cartref, Cynorthwywyr Personol a delir trwy staff asiantaeth taliadau uniongyrchol a staff sy'n gweithio i gontractwyr asiantaeth, gan ddarparu yn ddyddiol gwasanaethau gofal craidd.
Byddwn yn cysylltu â'u cyflogwyr yn uniongyrchol.