Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gadael yr Ysbyty


Summary (optional)
Ni ddylech gael eich rhyddhau o'r ysbyty nes eich bod mewn cyflwr meddygol digon da. Os ydych chi neu rywun rydych yn gofalu amdanynt yn poeni am ymdopi gartref pan fyddwch yn ddigon da i adael y ward, yna efallai y byddwn yn gallu cynnig cefnogaeth a chyngor mewn perthynas â chynllunio pan fyddwch yn cael eich rhyddhau.
start content

Efallai eich bod yn barod i adael yr ysbyty, ond y byddwch yn cael hi’n anodd ymdopi gartref heb gymorth. Bydd staff y ward yn siarad â chi am eich anghenion a’r hyn sy’n bwysig i chi. Efallai y byddant yn eich cyfeirio at ein tîm Gofal Cymdeithasol a fydd yn eich helpu chi pa gefnogaeth sydd ei angen gennym, ynghyd â chymorth gan eich gofalwr neu eich teulu.

Ein nod yw eich bod yn aros gartref cyn hired â phosib, felly pan rydych yn cael eich rhyddhau o'r ysbyty, efallai byddwn yn trefnu pecyn cymorth ail-alluogi dros dro.  Byddwn yn eich helpu i drefnu rhyddhad o'r ysbyty sy'n ddiogel ac yn amserol, ac unwaith rydych gartref, eich helpu i wella a chael annibyniaeth.

Os oes arnoch angen cyfarpar neu addasiadau i’ch helpu i symud o gwmpas eich cartref yn ddiogel, gallwn helpu i drefnu bod y rhain yn cael eu danfon neu eu gosod yn eich cartref.

Os nad ydych yn gallu dychwelyd adref, byddwn yn trafod y dewisiadau sydd ar gael gyda chi. Efallai y byddwch yn dymuno ystyried byw mewn lleoliad gwahanol, megis Tai Gofal Ychwanegol neu gartref preswyl. Bydd hyn yn dibynnu ar eich anghenion ar y pryd.

Rhagor o wybodaeth

Cymorth a chefnogaeth sydd ar gael i ddychwelyd adref o'r ysbyty

Talu am ofal

Dewis llety priodol ar ôl bod yn yr ysbyty

Ydych chi'n pryderu am rywun ar ôl arhosiad mewn ysbyty? Rhowch wybod am oedolyn mewn perygl yma

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content