Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Gofal Cymdeithasol a Lles Oedolion Talu am ofal Taliadau Uniongyrchol (Gwasanaethau Cymdeithasol): trefnu eich cefnogaeth a'ch gwasanaethau eich hun

Taliadau Uniongyrchol (Gwasanaethau Cymdeithasol): trefnu eich cefnogaeth a'ch gwasanaethau eich hun


Summary (optional)
Os ydych yn cael asesiad sy'n dangos eich bod yn gymwys i gael cefnogaeth i ddiwallu eich anghenion gofal, gall Cyngor Conwy, yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, roi’r arian i chi yn hytrach na gwasanaeth. Gallwch wario'r arian i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.
start content

Beth yw Taliadau Uniongyrchol?

Taliadau Uniongyrchol yw swm o arian sy’n cael ei dalu i chi fel y gallwch drefnu a thalu am gefnogaeth gofal cymdeithasol yn hytrach na bod y cyngor yn trefnu gwasanaethau ar eich cyfer. Byddwch yn gwario'r arian ar gael y gefnogaeth rydych ei hangen i fodloni anghenion cymwys/canlyniadau y cytunwyd arnynt fel rhan o'ch asesiad. Mae hyn yn eich galluogi i gael mwy o hyblygrwydd, dewis a rheolaeth dros eich bywyd a'ch bod yn gallu gwneud eich penderfyniadau eich hun am sut y rhoddir eich gofal.

Pwy all gael Taliadau Uniongyrchol?

Gallwch ond gael Taliad Uniongyrchol unwaith y byddwch wedi cael asesiad a bod y cyngor yn cytuno eich bod yn gymwys ar gyfer rhai gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Os ydych yn gymwys ac

  • 65 oed a hyn
  • Yn hysbys i Wasanaethau Iechyd Meddwl
  • Yn unigolyn anabl 16 oed a throsodd
  • Yn rhiant plentyn anabl (neu’n bobl sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blant anabl) i dalu am wasanaethau ar gyfer y plentyn
  • Yn ofalwr 16 oed a throsodd, ar gyfer gwasanaethau i fodloni anghenion y gofalwr a gafodd eu hasesu
  • Yn unigolyn anabl sydd â chyfrifoldebau rhiant dros blentyn, am wasanaethau i gefnogi eu rôl fel rhieni
  • Yn Berson Addas a benodwyd ar gyfer rhywun sydd heb allu (rhaid i'r cyngor gytuno ar bwy yw'r person addas)

Sut ydw i'n cael Taliad Uniongyrchol?

Pobl sydd eisoes yn cael gwasanaethau gofal cymdeithasol gennym

Fel arfer, gall pobl sydd eisoes yn cael gwasanaethau gofal gennym ddewis cael taliad uniongyrchol yn lle hynny. Gallwch ofyn i'ch gweithiwr cymdeithasol am wybodaeth am hyn.

Pobl sy’n newydd i wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion

Byddwch angen asesiad gofal cymdeithasol i weld os gallwn gynnig taliad uniongyrchol i chi. Gallwch ofyn i ni am asesiad gofal cymdeithasol drwy gysylltu â: Un Pwynt Mynediad.

Am ymholiadau cyffredinol am Daliadau Uniongyrchol:

Os oes gennych ymholiad cyffredinol am Daliadau Uniongyrchol, neu eisoes yn eu cael, gallwch gysylltu â'r Adran Taliadau Uniongyrchol. 

PO Box 1
CONWY
LL30 9GN

Ffôn: 01492 575648

E-bost: direct.payments@conwy.gov.uk

Cyfeiriad

Coed Pella
Conway Road
Bae Colwyn
LL29 7AZ


Sefydliad Rowan

Mae Sefydliad Rowan yn rhedeg gwasanaeth cefnogi annibynnol ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae eu cefnogaeth yn rhad ac am ddim i ddefnyddwyr gwasanaeth sydd â diddordeb mewn Taliadau Uniongyrchol ac sy'n eu defnyddio. Os oes gennych ddiddordeb mewn Taliadau Uniongyrchol ar ôl eich asesiad neu adolygiad, bydd eich Gweithiwr Cymdeithasol yn dweud wrth Sefydliad Rowan. Mae gan Sefydliad Rowan ymgynghorwyr Taliadau Uniongyrchol sy'n gallu helpu defnyddwyr gwasanaeth i benderfynu p'un ai i wneud cais am Daliadau Uniongyrchol neu beidio.

end content