Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Pobl Ifanc sy'n Gadael Gofal


Summary (optional)
Rydym yn cynnig cefnogaeth i bobl ifanc wrth iddynt symud o fod yng ngofal yr awdurdod lleol i annibyniaeth.
start content

Tîm Ymgynghori Personol

Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc dros 18 oed wrth iddynt wneud y trosglwyddiad o ofal yr awdurdod lleol i annibyniaeth.

Byddwn yn parhau i ddarparu cymorth hyd at 21 oed, neu hyd at 25 oed os yw’r unigolyn ifanc a’r cyngor yn cytuno. Caiff hyn ei gofnodi yn y Cynllun Llwybr.

Mae’r timoedd Ymgynghori Personol yn darparu cyfrifoldebau a dyletswyddau statudol i bobl sy’n gadael gofal, sy’n cynnwys cynnig cyngor a chefnogaeth gydag addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, llety a lles cyffredinol.

Cysylltu â’n Tîm ar Ddyletswydd

Rhif ffôn: 01492 576270
E-bost: ymgynghorwyrpersonol@conwy.gov.uk

Mynediad at Gymorth

Os ydych o dan 18 oed, gallwch gael atgyfeiriad at Dîm Ymgynghori Personol gan eich Gweithiwr Cymdeithasol yn y Tîm Llwybrau.

Os nad ydych wedi cysylltu â’r gwasanaeth ar ôl 21 oed ac os hoffech ailgysylltu â ni, cysylltwch â’n Tîm Un Pwynt Mynediad ar 0300 456 1111 a gofynnwch am atgyfeiriad at y Tîm Ymgynghori Personol.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content