Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Diogelu


Summary (optional)
Mae diogelu yn ymwneud â diogelu plant, pobl ifanc ac oedolion diamddiffyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod.
start content

Rydym i gyd yn gyfrifol am ddiogelwch aelodau mwyaf diamddiffyn ein cymdeithas.

Mae gan bawb yr hawl i fod yn ddiogel, ni waeth pwy ydynt neu beth yw eu hamgylchiadau. Mae diogelu yn ymwneud ag amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion diamddiffyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod.

Cadw plant yn ddiogel

Dylai plant fyw mewn lle diogel a chael eu diogelu rhag niwed. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill i sicrhau bod pob plentyn:

  • yn cael dechrau da mewn bywyd
  • gyda mynediad at addysg a dysgu
  • mor iach â phosibl
  • yn rhydd rhag gamdriniaeth, erledigaeth a cham-fanteisio
  • gyda mynediad i weithgareddau chwarae, hamdden, chwaraeon a diwylliannol
  • yn cael eu clywed, eu trin â pharch
  • yn cael eu hil a'u hunaniaeth ddiwylliannol wedi’u cydnabod
  • gyda chartref diogel a chymuned lle gallant dyfu
  • ddim dan anfantais oherwydd tlodi.

Cadw oedolion yn ddiogel

Mae oedolion sydd mewn perygl o gamdriniaeth neu esgeuluso yn aml yn oedrannus ac yn fregus, yn byw ar eu pen eu hunain yn y gymuned, neu heb lawer o gymorth teuluol mewn cartrefi gofal. Efallai nad oes ganddynt lawer o gefnogaeth oddi wrth y teulu ac maent yn dibynnu ar bobl eraill i ofalu amdanynt a gwneud penderfyniadau ar eu rhan. Maent yn aml yn bobl sydd ag anableddau corfforol neu ddysgu neu anghenion iechyd meddwl.

Rydym yn cefnogi unigolion diamddiffyn i’w hamddiffyn rhag camdriniaeth neu fathau eraill o gamfanteisio. Rydym hefyd yn eu helpu i gael rheolaeth dros eu bywydau ac i wneud eu penderfyniadau eu hunain.

Os ydych yn pryderu am ddiogelwch a lles oedolyn diamddiffyn, rhowch wybod i ni.

Mwy o wybodaeth

Tudalennau diogelu Llywodraeth Cymru

Gwefan Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru

end content