Manylion y cwrs
Dyddiad | Amser |
19 Chwefror 2024 |
1 diwrnod |
4 a 5 Ebrill 2024 |
9:15am tan 12:30pm |
6 a 7 Mehefin 2024 |
9:15am tan 12:30pm |
23 Awst 2024 |
9:15am tan 4:30pm |
23 a 24 Hydref 2024 |
9:15am tan 12:30pm |
15 a 16 Ionawr 2025 |
9:15am tan 12:30pm |
Hyfforddwr: Pauline Salisbury
Lleoliad: Coed Pella, Ystafell Hyfforddi 1
Gwasanaethau a dargedwyd: Lles Cymunedol, Tîm Anableddau, Cymorth ac Ymyrraeth i Deuluoedd, Plant sy’n Derbyn Gofal, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Gofalwyr Maeth, Glan yr Afon
Grŵp Targed: Gofalwyr Maeth, staff Glan yr Afon, Gweithwyr Sesiynol a Chyswllt, Gweithwyr Cymdeithasol a staff cymorth sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc
Canlyniadau’r cwrs
Mae’r cwrs yn cynnwys gwaith ymarferol a gwaith dosbarth damcaniaethol, yn ogystal ag asesiadau ymarferol parhaus ar Adfywio Cardio-Pwlmonaidd (CPR) a chymorth cyntaf.
Mae amrywiaeth o bynciau yn cael eu cwmpasu gan gynnwys:
- Dealltwriaeth o rôl unigolyn cymorth cyntaf pediatreg
- Sut i ddarparu cymorth cyntaf ar gyfer baban a phlentyn nad yw’n ymateb nac yn anadlu’n arferol
- Sut i ddarparu cymorth cyntaf ar gyfer baban a phlentyn sy’n dioddef sioc
- Sut i asesu sefyllfa frys a gweithredu’n ddiogel ac effeithiol
- Sut i ddarparu cymorth cyntaf ar gyfer baban a phlentyn sydd â rhywbeth yn sownd yn eu llwybr anadlu
- Sut i ddarparu cymorth cyntaf ar gyfer baban a phlentyn nad yw’n ymateb ac sy’n anadlu’n arferol
- Sut i ddarparu cymorth cyntaf ar gyfer baban a phlentyn sydd wedi anafu ac sy’n gwaedu
- Sut i ddarparu cymorth cyntaf ar gyfer baban a phlentyn yr amheuir eu bod wedi torri asgwrn neu sydd wedi datgymalu asgwrn
- Sut i ddarparu cymorth cyntaf i faban a phlentyn gyda chyflwr meddygol cronig neu salwch sydyn
- Sut i ddarparu cymorth cyntaf i faban a phlentyn gyda llosgiadau neu sgaldiadau
- Sut i ddarparu cymorth cyntaf i faban a phlentyn gydag anaf i’r pen, gwddf a chefn
- Sut i ddarparu cymorth cyntaf i faban a phlentyn sy’n profi effeithiau gwres ac oerfel eithafol
- Sut i ddarparu cymorth cyntaf ar gyfer baban a phlentyn sydd wedi eu gwenwyno
- Sut i ddarparu cymorth cyntaf i faban a phlentyn gyda chyflyrau sy’n effeithio ar y llygaid, clustiau a thrwyn
- Sut i ddarparu cymorth cyntaf ar gyfer baban a phlentyn sydd wedi cael sioc drydanol
- Sut i ddarparu cymorth cyntaf ar gyfer baban a phlentyn sydd wedi eu brathu neu bigo
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i ddod arno, cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynd ar unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosib' y bydd y digwyddiad yn llawn.