Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ymwybyddiaeth o LGBT – Plant a Phobl Ifanc


Summary (optional)
start content

Manylion y cwrs:

DyddiadAmserLleoliadHyfforddwrGrŵp targed
9 Hydfref 2018 9:15am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru
9:30am – 2:30pm
   
Ystafell Hyfforddiant Colwyn, Bron y Nant, Dinerth Road, Llandrillo-yn-Rhos, Bae Colwyn, Conwy, LL28 4YN Diversity Trust – Berkeley Wilde

Gwasanaethau Targed – Cymuned a Lles, Tîm Anableddau, Cefnogaeth ac Ymyriadau Teuluol, Plant sy’n Derbyn Gofal, Pobl Ddiamddiffyn, Gwasanaeth Cyfiawnder ieuenctid, Glan yr Afon, Gofalwyr Maeth

Grŵp Targed – Gofalwyr Maeth, Gweithwyr Gofal Preswyl Plant, Gweithwyr Cymdeithasol, Swyddogion Cyfiawnder Ieuenctid, Gweithwyr Cymdeithasol Addysg, Staff Cefnogi Teuluoedd, Tîm Troseddu Ieuenctid a Gweithwyr Ieuenctid.


Trosolwg:

Bydd y cwrs hwn yn codi ymwybyddiaeth cyfranogwyr o themâu allweddol LGBT+, gan gynnwys:

  • Dod allan
  • Perthnasoedd
  • Teuluoedd
  • Adnoddau LGBT+ fel grwpiau cymdeithasol a chefnogi

Bydd y cwrs yn cynnwys trosolwg o’r deddfwriaethau cydraddoldeb allweddol, yn archwilio’r rhwystrau a wynebir gan bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol ac yn darparu cyfle i ymgorffori themâu’r cwrs i arferion gyda Phlant a Phobl Ifanc.

9.30am Sesiwn Gynhwysiant:

  • Croeso a Manylion Ymarferol
  • Cytundeb Dysgu
  • Gweithgaredd Bingo LGBT+
  • Trosolwg o’r gyfraith, dyletswyddau a’r cyfrifoldebau
  • Iaith a diffiniadau

11.15am Egwyl

11.30am Cysylltu a chyfathrebu gyda phobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol ac eraill:

  • Ymchwil ar brofiadau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol ac eraill
  • Y rhwystrau a wynebir gan blant a phobl ifanc lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol wrth gael gafael ar wasanaethau.
  • Canllawiau arfer orau i gefnogi staff i wella profiadau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol ac eraill

12.30pm Cinio

1.00pm Ymwybyddiaeth o Bobl Drawsrywiol:

  • Gweithio gyda phlant a phobl ifanc drawsrywiol
  • Safbwyntiau cyfreithiol, cymdeithasol, diwylliannol, meddygol a hanesyddol bod yn berson trawsrywiol

2.00pm Teulu a pherthnasoedd:

  • Atgyfeirio

2.30pm Gwerthuso a Chloi

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynd ar y cwrs cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu.  Peidiwch â mynd ar unrhyw gwrs oni bai eich bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

end content