Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwybodaeth Ddefnyddiol Arall


Summary (optional)
start content

Llinell gymorth lles i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu llinell gymorth Y Samariaid newydd ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.  Mae pob galwad yn rhad ac am ddim ac yn cael ei hateb gan wirfoddolwyr hyfforddedig all ddarparu cyngor cyfrinachol ac anfeirniadol.  I gael rhagor o fanylion, ewch i wefan Y Samariaid.

Cynllun taliadau arbennig i'r gweithlu gofal cymdeithasol

Ar 19 Mehefin 2020 rhyddhaodd Llywodraeth Cymru ganllawiau dros dro ar gyfer cynllun taliadau arbennig i'r gweithlu gofal cymdeithasol. Mae un taliad o £500 wedi cael ei gyflwyno i gydnabod gwaith caled ac ymrwymiad staff gofal cymdeithasol sydd wedi darparu gofal hanfodol i’n hunigolion mwyaf diamddiffyn yn ystod pandemig Covid-19.

Rydym ar hyn o bryd yn gweithio i ganfod ffordd o ddarparu’r taliad hwn i’r gweithlu gofal yng Nghonwy a byddwn yn cysylltu â chi yn fuan i roi gwybod i chi pa wybodaeth sydd ei hangen arnom gennych i sicrhau bod hyn yn digwydd.

Cefnogi eich iechyd a'ch llesiant

Rydym i gyd yn gwybod pa mor anodd a heriol y bu'r misoedd diwethaf hyn a sut rydych wedi bod yn gweithio o dan bwysau enfawr mewn amgylchiadau anghyfarwydd sy'n newid yn gyflym. Felly mae'n bwysicach nag erioed eich bod yn sicrhau eich bod yn gwneud amser i ofalu am eich iechyd a'ch llesiant. I'ch helpu chi i gadw'n iach, rydym ni wedi tynnu ynghyd nifer o adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol i chi:

Cefnogaeth llesiant i’r sector gofal cymdeithasol yn ystod Covid-19 (Ffeil PDF)

Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol Coronafeirws

Os ydych yn gyflogwr, gallwch gael gwybod yma a oes modd i chi ddefnyddio’r Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol Coronafeirws er mwyn hawlio’n ôl Tâl Salwch Statudol (SSP) cyflogeion sy’n gysylltiedig â choronafeirws.

Hysbysebu Swyddi Gwag

Gweler y ddogfen isod os hoffech hysbysebu eich swydd wag ym maes gofalu ar dudalen recriwtio Conwy.

Cyhoeddiad gan We Care Wales

Rydym yn datblygu porth swyddi i helpu pobl i ddod o hyd i swyddi gwag yn y maes #GofalCymdeithasol ar hyd a lled #Cymru

Os ydych chi’n weithiwr gofal cymdeithasol sy’n chwilio am bobl i helpu’r rhai mwyaf diamddiffyn yn ein cymunedau, rhannwch eich swyddi gwag ar Twitter, gan ddefnyddio #WeCareWalesJobs.

Byddwn yn eu rhannu ar y porth ar ein gwefan https://www.gofalwn.cymru/  a fydd yn barod cyn gynted â phosibl.

Helpwch ni i rannu eich neges ar draws y wlad! #WeCareWales

Gwyliwch am sgamiau COVID-19

Mae Safonau Masnach cenedlaethol yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus yn dilyn cynnydd o ran sgamiau sy’n ymwneud â’r coronafeirws sy’n ceisio manteisio ar bryder ac ansicrwydd y cyhoedd am COVID-19.

Gwybodaeth Gymunedol

Mae’r wefan hon yn ceisio mapio rhestrau o leoedd sy’n cynnig gwasanaeth dosbarthu bwyd, fferyllfeydd sy’n barod i fynd â meddyginiaethau i bobl, grwpiau gwirfoddolwyr sy’n cynnig helpu pobl sydd ar eu pen eu hunain – yr holl gynigion cymunedol sydd wedi dod i’r amlwg, ar un wefan.

Un Pwynt Mynediad

Rydym wedi sefydlu Un Pwynt Mynediad yng Nghonwy sy’n fyw bellach. Ei fwriad yw cefnogi unrhyw un yn y gymuned nad ydynt yn gallu cysylltu â ffrindiau, teulu neu gymdogion i ofyn am help gyda chasglu eu siopa, rhoi meddyginiaeth ac ati.

  • Rhif ffôn un pwynt mynediad yw 01492 575544.
  • Mae hwn yn wasanaeth dyddiol rhwng 9a.m a 5p.m.

 

Cronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol (VSEF)

Mae CGGC wedi lansio proses gais Cronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol (VSEF).   Pwrpas VSEF yw galluogi’r sawl sy’n darparu cefnogaeth hanfodol i grwpiau sy’n cael eu heffeithio gan Covid-19, megis: pobl sy’n hunan-ynysu, yr henoed, gofalwyr, pobls sy’n cael hi’n anodd cael bwyd ac ati, fel eu bod yn gallu cael eu cefnogi yn ystod y cyfnod hwn.

Bydd VSEF yn cefnogi sefydliadau nid er elw, sy'n gweithio ar lefel gymunedol hyd at lefel genedlaethol yng Nghymru, a gall fod rhwng £10,000 - £100,000.

Gweler rhagor o wybodaeth ar ddogfennau briffio a Chwestiynau Cyffredin a gall sefydliadau anfon neges e-bost at vsef@wcva.cymru Gellir cyfeirio sefydliadau i wefan VSEF a gall grwpiau ddefnyddio https://funding.cymru i ganfod y nawdd COVID mwyaf addas i chi.

Hyfforddiant Gweinyddu Meddyginiaeth AaGIC

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Fferyllfa) (AaGIC) wedi cynhyrchu cwrs hyfforddi ar-lein i gefnogi pobl sy'n cynorthwyo eraill i gymryd eu meddyginiaeth.  Mae hyn ynghyd ag adnoddau eraill YN FYW ar wefan AaGIC Fferyllfa - https://www.wcppe.org.uk/

Mae math cofrestru newydd "COVID-GOFAL CYMDEITHASOL" wedi'i greu, a fydd yn galluogi unrhyw un i gael mynediad i'r hyfforddiant ar ôl iddynt gofrestru cyfrif ar y wefan.  Ymddiheuriadau, mae cofrestriad yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd.  I gael rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru, gweler yr arweiniad i ddefnyddwyr sydd ynghlwm.

Os ydych yn cael unrhyw broblemau wrth fynd i mewn i'r safle a chofrestru, cysylltwch â HEIW.Pharmacy@wales.nhs.uk

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content