Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Gŵyl Gorawl - Hwb Economaidd

Gŵyl Gorawl - Hwb Economaidd


Summary (optional)
Mae’r Gŵyl Gorawl flynyddol yn rhoi hwb o bron i £400,000 i economi Llandudno bob blwyddyn.
start content

Gŵyl Gorawl – Hwb Economaidd

Mae Gŵyl Gorawl Gogledd Cymru yn cael ei chynnal ar benwythnos yn gynnar ym mis Tachwedd ac yn cael ei threfnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Cynhelir y digwyddiad tri diwrnod yn Venue Cymru ac mae’n denu oddeutu 2,500 o bobl i Landudno, sydd naill ai’n ymweld i gystadlu fel rhan o gôr neu aelod o'r gynulleidfa.

Ers ei sefydlu fel cystadleuaeth undydd yn ôl yn 1988, mae’r ŵyl wedi tyfu blwyddyn ar ôl blwyddyn ac mae’n cynnwys detholiad o gategorïau amrywiol, gweithdai ysgolion, cystadlaethau, a pherfformiadau gan aelodau o'r gymuned.

Fel bob amser, mae’r ŵyl eleni eisoes yn edrych fel y bydd yn llwyddiant arall, gyda dwsinau o gorau wedi cofrestru i gystadlu yn y digwyddiad.

Roedd y Cynghorwr Louse Emery, yr aelod cabinet dros ddatblygiad economaidd, yn canmol y gystadleuaeth.   Dywedodd, “Yn ystod misoedd y gaeaf, mae trefi sy’n dibynnu ar dwristiaid fel Llandudno yn tawelu oherwydd y tymhorau.  Ond mae digwyddiadau fel Gŵyl Gorawl yn helpu’r dref i ffynnu hyd yn oed wrth i’r tywydd waethygu a’r nosweithiau dywyllu’n gynt.  

“Mae hon yn ddigwyddiad arbennig sy'n ychwanegiad gwerthfawr i'r rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau sydd gennym yng Nghonwy.  Mae Corau, yn naturiol, yn grwpiau mawr.  Mae’r ymwelwyr hyn yn teithio i Ogledd Cymru o ledled y DU ac mae’r holl bobl hyn angen llety, bwyd a diod, ac adloniant pan fyddant yn cyrraedd.  Mae’r Ŵyl yn bywiogi’r hydref ac mae'n hanfodol i nifer o westywyr, tafarnwyr, perchnogion caffi, a busnesau yn Llandudno.”

Rhyddhawyd y ffigyrau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar ôl gwerthusiad economaidd, a oedd yn defnyddio fformiwla safonol y diwydiant a gafodd ei datblygu gan Brifysgol Sheffield Hallam, i gyfrifo’r gwerth i’r ardal. Gwerth amcangyfrifedig yr ŵyl i’r ardal oedd £394,000. Casglwyd yr wybodaeth gan arolygon a gwblhawyd gan y rhai hynny a oedd yn bresennol yn yr ŵyl.   Dangosodd y ffigyrau fod 59% o aelodau corau a 57% o wylwyr wedi teithio o Loegr, ond daeth corau a gwylwyr o gyn belled â’r Alban ac Iwerddon hefyd.

Am ragor o wybodaeth am Ŵyl Gorawl, ewch i www.northwaleschoralfestival.com

DIWEDD

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content