Cyngor Conwy yn cytuno ar Strategaeth Tai
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cymeradwyo’r Strategaeth Tai Lleol ar gyfer 2018-2023.
Mae’r Strategaeth Tai Lleol yn ddogfen a ysgrifennwyd i roi cyfeiriad strategol i wella’r mynediad i dai fforddiadwy yng Nghonwy.
Mae’r Strategaeth yn darparu fframwaith sy’n hybu gweithio mewn partneriaeth â budd-ddeiliaid allweddol yn y sector preifat, cyhoeddus a gwirfoddol ac mae'n amlinellu sut y bydd y Cyngor yn ymateb i anghenion tai lleol Conwy er mwyn gwireddu ei weledigaeth yn ystod yn pum mlynedd nesaf.
Mae gan y strategaeth bedwar amcan allweddol: cynyddu’r cyflenwad o opsiynau tai fforddiadwy i’r rhai ar incwm is; gweithio tuag at ddiwallu anghenion amrywiol o ran llety a chymorth i bawb yn ein sir nawr ac yn y dyfodol; gwella cyflwr a safonau effeithlonrwydd ynni ein tai; a sicrhau bod pobl yn deall eu hopsiynau tai i’w galluogi i wneud penderfyniad gwybodus.
Mae cynllun gweithredu manwl (tan Ebrill 2020) wedi'i baratoi yn amlinellu pa gamau gweithredu fydd rhaid eu cyflawni er mwyn cyflawni amcanion allweddol y strategaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Liz Roberts, Aelod Cabinet Gofal Cymdeithasol Conwy, “Mae tai da yn allweddol i sicrhau ansawdd bywyd gwell, iechyd gwell a gall drechu tlodi. Am y rheswm hwnnw felly, sicrhau bod gan bawb yn Sir Conwy rhywle fforddiadwy a phriodol i fyw yw prif gyfrifoldeb swyddogaeth tai strategol y Cyngor. Mae’r strategaeth hon yn darparu’r sylfaen ar gyfer ein blaenoriaethau tai dros y pum mlynedd nesaf.”
Wedi ei bostio ar 06/12/2018