Rydym yn defnyddio cwcis i wneud y safle hwn yn symlach. Drwy bori trwy ein tudalennau rydych yn derbyn ein defnydd o gwcis. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen preifatrwydd a chwcis.
Bydd gwaith cynnal a chadw hanfodol o 6pm ar 7/12/17 yn effeithio ar ein gwasanaethau rhyngrwyd, gan gynnwys gwefannau ac e-bost.
Cartref Newyddion Newyddion Cyngor yn gweld bai ar setliad 'torcalonnus ac annheg' Llywodraeth Cymru

Cyngor yn gweld bai ar setliad 'torcalonnus ac annheg' Llywodraeth Cymru


Summary (optional)
start content

Cyngor yn gweld bai ar setliad 'torcalonnus ac annheg' Llywodraeth Cymru

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi gweld bai ar setliad dros dro Llywodraeth Cymru gan dynnu sylw mai dyma’r gwaethaf i gael ei ddyrannu i awdurdod yng Nghymru. Mae’n golygu y bydd Conwy yn wynebu diffyg ariannol o oddeutu £16 miliwn.

Mae cynghorwyr wedi rhybuddio yn barod y byddai gwasanaethau hanfodol yn cael eu torri a byddai angen cynyddu treth y cyngor yn sylweddol er mwyn ceisio cau’r bwlch. Dywedwyd fod y setliad dros dro – sydd yn waeth na ofnwyd - yn gwneud dim ond rhoi  mwy o bwysau ar wasanaethau’r cyngor, yn enwedig y rheiny yn cefnogi'r mwyaf diamddiffyn.

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Gareth Jones:  “Mae'r setliad yn dorcalonnus ac yn siomedig. Gofynnir i gynghorau ddarparu mwy a mwy o wasanaethau gyda llai a llai, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae’r toriadau parhaus nid yn unig yn fygythiad i’n gwaith gwerthfawr ond yn gwneud ychydig i helpu pobl ac yn bygwth y ffordd Gymreig o fyw.

“Rydym hefyd yn gyfyngedig i gyfansymiau cynyddol o ddeddfwriaeth a chytundebau cenedlaethol o’r UE, o Lywodraeth Ganolog a Llywodraeth Cymru. Mae pob darn newydd o ddeddfwriaeth yn golygu cost sylweddol sydd heb ei ariannu. Fel awdurdod rydym yn gorfod gwneud penderfyniad anodd yn barhaus a hynny mewn amgylchiadau heriol a mantoli’r gyllideb.  Tydi modelau'r setliad presennol ddim yn gynaliadwy."

 Conwy ydi un o'r cynghorau sydd wedi ei effeithio gwaethaf ynghyd ag awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru - Ynys Môn a Sir y Fflint.

Meddai’r Cynghorydd Jones bod y setliad 'heb gymryd sylw priodol o ddemograffeg’  ac yn gwneud dim i gymryd i ystyriaeth mai canran y boblogaeth yng Nghonwy sy'n 65 oed a hŷn yw'r uchaf yng Nghymru.

“Pan ddaw i benderfynu ar unrhyw setliad, mae cael poblogaeth hŷn a bod mewn ardal wledig mewn gwirionedd yn mynd yn ein herbyn gan fod Llywodraeth Cymru yn dueddol o chwistrellu arian mewn ardaloedd gyda phoblogaethau iau. Mae hyn yn wrthgynhyrchiol gan ein bod angen darparu’r gwasanaeth gorau posib i holl bobl Conwy, beth bynnag eu hoedran neu angen. Rydym eisiau cefnogi’r mwyaf bregus yn ein cymuned ond mae disgwyl i ni wneud hynny gyda thoriadau parhaus yn cael eu gwthio arnom,” meddai.

Mae’r awdurdod eisoes wedi gofyn i Lywodraeth Cymru i adlewyrchu ar yr argyfwng cost sy’n cynyddu mewn ariannu gwasanaethau gofal plant wrth osod ei gyllideb dros dro ar gyfer awdurdodau lleol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Jones: “Mae’r galw ar ein gwasanaethau gofal cymdeithasol, sydd yn effeithio ac yn cefnogi'r agenda Iechyd a Lles yn cynyddu ond tydi’r cyllid o fewn y setliad ddim yn adlewyrchu hynny - mae ein hapeliadau yn cael eu hanwybyddu. Mae setliadau fel hyn unwaith eto yn ein rhoi mewn sefyllfa lle rydym yn cael ein gorfodi i edrych ar yr holl doriadau i gyllidebau’r gwasanaethau a fydd yn cynnwys llawer o’n gwasanaethau cynnal iechyd ataliol a chynnydd sylweddol mewn treth y cyngor i lenwi’r bylchau. Nid yw hanner ddigon da.”

Mae’r cyngor eisoes wedi gwneud arbedion o £48miliwn dros y chwe blynedd diwethaf. Dywedodd y cyngor fod ganddo ‘frwydr’ gyda Llywodraeth Cymru rhwng rŵan a chyhoeddi’r setliad terfynol ym mis Rhagfyr.

Wedi ei bostio ar 10/10/2018

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content

Dod o hyd i'ch ysgolion, ysbytai, gwasanaethau cyngor agosaf a mwy