Erlyn gyrrwr am yrru cerbyd dros ei bwysau
Yn Llys Ynadon Llandudno heddiw (12/02/19) plediodd Mr Thomas Reeves o Faes y Llan, Towyn yn euog o yrru cerbyd dros ei uchafswm pwysau gros ac uchafswm pwysau’r echel ôl.
Dyfarnwyd cyfanswm dirwy o £1,000 i Mr Reeves, yn cynnwys gordal dioddefwr a chostau ymchwilio, a chafodd hefyd dri phwynt cosb.
Cafodd Mr Reeves ei stopio yn ystod ymgyrch ar y cyd rhwng Heddlu Gogledd Cymru, Safonau Masnach Sir Ddinbych a Safonau Masnach Conwy ar 3 Awst 2018 ar safle pont bwyso ar yr A525 rhwng Rhuddlan a Llanelwy.
Ni ddylai pwysau cerbyd fel yr un oedd Mr Reeves yn ei yrru fod dros 3500 kg ond roedd ei gerbyd yn pwyso 5000kg - 1500kg (42.85%) dros y pwysau uchaf.
Meddai Swyddog o Adran Safonau Masnach Conwy:
“Mae cerbydau wedi’u gorlwytho’n peryglu’r gyrrwr a defnyddwyr eraill y ffyrdd. Mae cerbydau’n ymateb yn wahanol os ydynt yn cario mwy o bwysau na’r uchafswm y maent wedi’u dylunio ar eu cyfer a gall y canlyniadau fod yn angheuol. Mae gorlwytho’n rhoi straen enfawr ar deiars cerbyd ac yn ei wneud yn llai sefydlog, yn fwy anodd i’w lywio a bydd yn cymryd mwy o amser i’w stopio.
"Mae gorlwytho cerbydau hefyd yn achosi difrod difrifol i ffyrdd a’r isadeiledd gan greu arwain at gostau trwsio a chynnal a chadw uwch i awdurdodau lleol a defnyddwyr eraill y ffyrdd.”
Wedi ei bostio ar 12/02/2019