Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Myfyrwyr o UDA yn ymweld â Chyngor Conwy

Myfyrwyr o UDA yn ymweld â Chyngor Conwy


Summary (optional)
start content

Ddoe (22 Mawrth) croesawodd aelodau o Gyngor Ieuenctid Conwy  a Thîm Etholiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy grŵp o fyfyrwyr o’r Tahoe Expedition Academy yn California i Swyddfeydd y Cyngor yng Nghonwy.  Mae’r myfyrwyr o America yn y DU fel rhan o daith astudio er mwyn dysgu am ddylanwad hanes a diwylliant ar niferoedd pobl ifanc sy’n defnyddio eu pleidlais gan gymharu’r sefyllfa yn America a Phrydain.

Myfyrwyr o UDA yn ymweld â Chyngor Conwy  1

Croesawyd y saith myfyriwr  rhwng 16 ac 18 oed o’r Unol Daleithiau i Fodlondeb gan Brif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Iwan Davies. Hefyd yn bresennol yn y digwyddiad roedd Ceri Morgan, Gweithiwr Allgymorth ac Ymgysylltiad Ieuenctid Llywodraeth Cymru, a fu’n siarad gyda’r myfyrwyr am Lywodraeth Cymru a’r cynnig diweddar i sefydlu Senedd yr Ifanc ar gyfer Cymru.

Yn dilyn hynny cafodd y myfyrwyr sesiwn holi ac ateb a thrafodaeth eang gyda 12 aelod o Gyngor yr Ifanc i archwilio’r pwnc o hawliau pleidleisio pobl ifanc yng Nghymru a beth sy’n dylanwadu ar bobl ifanc i bleidleisio.  

Meddai’r Cynghorydd Anne McCaffrey, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ddemocratiaeth, y Gyfraith a Moderneiddio:  “Roedd yn wych gweld democratiaeth yn cael ei thrafod yn ein Siambr gan fyfyrwyr sydd wedi teithio dros 5,000 o filltiroedd i weld sut y mae democratiaeth yn gweithio yn y DU.   Gwnaeth Cyngor Ieuenctid Conwy waith rhagorol yn y digwyddiad.  Roedd  gan y myfyrwyr ddiddordeb arbennig mewn cynlluniau i gyflwyno Senedd yr Ifanc ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru a hefyd y cynnig i ganiatáu i bobl 16 oed bleidleisio mewn etholiadau lleol.”

Meddai Jason McCay-Moran, myfyriwr hŷn yn Tahoe Expedition Academy: “Mae ein dosbarth ni yn gwneud astudiaeth a fydd yn para tymor cyfan yn cymharu ac yn gwrthgyferbynnu nifer y bobl ifanc sy’n defnyddio eu pleidlais yn yr Unol Daleithiau ac ym Mhrydain. Roedd ein cyfarfod ni gyda Chyngor Ieuenctid Conwy yn gwbl ysbrydoledig ac addysgol.”

Ychwanegodd Joshua Cleverley o Gyngor Ieuenctid Conwy: “Roedd yn gyfle gwych i gyfarfod pobl eraill o wahanol ddiwylliannau ac i roi gwybod i’n gilydd am y gwahaniaethau o ran gwleidyddiaeth a democratiaeth rhwng y ddwy wlad.”

Myfyrwyr o UDA yn ymweld â Chyngor Conwy  2

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content