Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Be sy'n newydd Tudalennau Lansio Menter Addewid Gwyrdd i'r Gymuned

Lansio Menter Addewid Gwyrdd i'r Gymuned


Summary (optional)
start content

cdpsb-logoMae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych wedi lansio menter Addewid Gwyrdd i’r Gymuned i helpu cymunedau a sefydliadau i wneud gwahaniaethau a all gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. 

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych yn gydweithrediad rhwng cyrff cyhoeddus sy’n gweithio gyda’i gilydd i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yng Nghonwy a Sir Ddinbych.

Un o flaenoriaethau’r Bwrdd yw cefnogi gwytnwch amgylcheddol. Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cydnabod bod Newid Hinsawdd yn un o faterion diffiniol ein hoes a’r bygythiad mwyaf i’n lles – yn fyd-eang ac yn lleol. 

Er mwyn helpu i gefnogi’r flaenoriaeth hon a gwneud gwahaniaeth yn lleol, mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi datblygu menter Addewid Gwyrdd i’r Gymuned sy’n nodi 5 Addewid Gwyrdd y gall cymunedau a sefydliadau eu gwneud i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd.  Mae pob addewid yn cynnwys awgrymiadau, cyfleoedd posib’ am gyllid a chanllawiau ar bethau sy’n gallu gwneud gwahaniaeth.

Mae’r cynllun hwn yn rhad ac am ddim a gall unrhyw un ymuno – megis grwpiau cymunedol, clybiau chwaraeon, pentrefi, trefi, elusennau, busnesau, a mentrau cymdeithasol. 

Cliciwch yma i gael gwybod mwy - www.conwyanddenbighshirepsb.org.uk

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content