Ym mis Chwefror bob blwyddyn, mae mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LGBT) yn dathlu bywydau a chyflawniadau’r gymuned LGBT. Er bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy gydol y flwyddyn, mae'r fenter y mis hwn yn rhoi cyfle arbennig i godi ymwybyddiaeth o achosion LGBT. Mae ymchwil yn dangos bod pobl o gymunedau LGBT yn fwy tebygol o brofi anawsterau iechyd meddwl megis pryder ac iselder ac mewn mwy o berygl o hunan-niweidio, oherwydd y rhagfarn sy’n gysylltiedig â’u hunaniaeth. Mae nifer yn byw mewn ofn o ddiarddeliad ac erledigaeth.
Gwyddwn hefyd, fod trosedd casineb yn dal i fod yn broblem wirioneddol i’r gymuned LGBT. Mae ystadegau’r Swyddfa Gartref yn dangos bod 11,638 o droseddau casineb (cynnydd o 12%) mewn troseddau casineb cyfeiriadedd rhywiol a throseddau casineb trawsryweddol ar draws Cymru a Lloegr yn ystod 2017/18. Mae’r nifer o droseddau casineb yn erbyn y gymuned hon yng Ngogledd Cymru hefyd yn cynyddu, gyda’r ffigyrau diweddaraf yn dangos cynnydd o 50% mewn troseddau casineb yn erbyn y gymuned LGBT yn y rhanbarth.
Os ydych chi neu unrhyw un yr ydych yn ei adnabod yn destun trosedd casineb, adroddwch hyn i Gymorth i Ddioddefwyr, sydd â chontract gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer Adrodd am Droseddau Casineb yn Genedlaethol ar radffôn 0300 31 982 neu ar-lein ar https://www.reporthate.victimsupport.org.uk/cy/cartref/
Drwy gydol mis Chwefror, cynhelir digwyddiadau ar draws y DU i godi ymwybyddiaeth a gwella addysg ar faterion sy'n effeithio'r gymuned LGBT.
Am fwy o wybodaeth am Fis Hanes LGBT, gweler http://www.lgbthistorymonth.org.uk