Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gweminar LoRaWAN


Summary (optional)
start content

Ffyrdd newydd o ddeall a dadansoddi data i’ch busnes?

UNRHYW fusnes?

A ydych yn fusnes gwledig, a gweithio yn y maes manwerthu, amaeth, twristiaeth, hamdden, gofal cymdeithasol neu iechyd? A Ydych chi eisiau derbyn negeseuon am feysydd lle nad yw’n bosib i chi gasglu gwybodaeth ar hyn o bryd? Ydych chi eisiau adnabod tueddiadau, cynyddu eich elw, gwella cynhyrchiant a helpu i leihau colledion a gorbenion (overheads)?

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am fonitro tymheredd, symudiad, lleithder, lefelau golau, lefelau sŵn mewn garej, sied, tŷ, tŷ tenantiaid neu cartref rhywun annwyl - gall LoRaWAN gynorthwyo!

Os yw hyn wedi ennyn eich ddiddordeb i ddysgu mwy am LoRaWAN a sut y gall y dechnoleg eich helpu chi, eich busnes, eich cwsmeriaid a'ch asedau busnes, cofrestrwch ar gyfer un o’r gweminarau isod.

Byddwn yn canolbwyntio ar y buddion i Sir Conwy ond mae'r cysyniadau'n rhedeg yn bell y tu hwnt i Ogledd Cymru.

Rydym yn rhedeg dau weminar ar Zoom.

Ionawr 20fed 2021, 13:30 - 15:00


neu

Ionawr 27ain 2021, 19:00 - 20:30

 

Neu am fwy o wybodaeth, ebostiwch - conwylocalactiongroup@conwy.gov.uk

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content