Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Be sy'n newydd Tudalennau Rheithgor Dinasyddion Rhithwir: Beth sy'n bwysig mewn Gofal Cymdeithasol yng Nghymru

Rheithgor Dinasyddion Rhithwir: Beth sy'n bwysig mewn Gofal Cymdeithasol yng Nghymru


Summary (optional)
start content

Ydych chi'n ofalwr? Ydych chi'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth?

Byddem wrth ein bodd yn gwybod mwy am sut olwg sydd ar ddiwrnod yn eich bywyd.

Ym mis Medi, bydd Mesur y Mynydd yn cynnal ei ail Reithgor Dinasyddion fel digwyddiad rhithwir. Bydd pymtheg aelod o'r cyhoedd (ein Rheithwyr) yn dod ynghyd i archwilio agwedd ar ofal cymdeithasol. Fel rhan o'r wybodaeth a gyflwynir, hoffem ddangos fideos a wnaethoch chi, am ddiwrnod yn eich bywyd.

Gellir gwneud y fideos ar eich ffôn a gallant gwmpasu unrhyw agweddau ar eich diwrnod yr hoffech eu rhannu. Fodd bynnag, byddai'n addysgiadol iawn i'r Rheithwyr wybod am bethau fel cymhorthion ac offer rydych chi'n eu defnyddio; pobl rydych chi'n rhyngweithio â nhw; gwneud apwyntiadau; neu fynd allan.

I ddarganfod mwy am y fideos hyn a sut y gallwch chi gymryd rhan yn y Rheithgor Dinasyddion ewch i www.mym.cymru/rheithgor-dinasyddion-2020

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content