Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cynllun Corfforaethol 2022-2027


Summary (optional)
start content

Cynllun y Cyngor 2022 - 2027

Mae gennym ni gynllun newydd i’r Cyngor cyfan sy’n nodi ein huchelgeisiau i wneud gwahaniaeth i Bobl Conwy dros y pum mlynedd nesaf, er mwyn bodloni ein canlyniadau hirdymor ar gyfer ein dinasyddion.


Wrth i Sgwrs y Sir barhau, rydych chi wedi dweud wrthym beth rydych chi’n ei feddwl sydd wedi newid dros y pum mlynedd ddiwethaf, beth sy’n bwysig i chi a beth allem ni ei wneud yn well. Rydym hefyd wedi dadansoddi ymchwil a thueddiadau data am y Sir ac wedi defnyddio hyn oll i ddatblygu ein Cynllun.

Mae ein cynllun hefyd yn adlewyrchu newidiadau rydym ni i gyd wedi gorfod eu gwneud o ganlyniad i’r pandemig Covid-19 byd-eang ac mae’n trafod sut y gallwn helpu pobl, busnesau a chymunedau drwy gyfnod ansicr a chostau byw cynyddol.

Mae heriau o’n blaenau ond byddwn yn parhau i roi ein cymunedau wrth galon popeth rydym yn ei wneud. Fe fyddwn felly’n adolygu’r cynllun bob blwyddyn i sicrhau ei fod yn adlewyrchu beth rydych wedi’i ddweud wrthym ni.

Byddwn yn gofyn i gymunedau bob blwyddyn a yw’r blaenoriaethau’n parhau i fod yn gywir a’u hadolygu os oes angen. Yn yr un modd, rydym eisiau dweud wrth gymunedau beth sydd wedi’i gyflawni, a phob mis Hydref, byddwn yn rhoi diweddariadau drwy adroddiad blynyddol. Fodd bynnag, nid ydym ni eisiau aros tan ddigwyddiad blynyddol i glywed eich barn chi – os oes gennych syniadau neu os hoffech gymryd rhan i wneud newid cadarnhaol yn eich cymuned, cysylltwch â ni ar y cyfeiriad isod.

Ein Gwledigaeth


Conwy – Sir flaengar sy’n creu cyfleoedd

Rydym yn gweithio mewn amgylchedd sy'n newid ac un lle mae llawer o alw arnom. Ein gweledigaeth yw bod yn flaengar wrth reoli newid a'i ddefnyddio i greu cyfleoedd; i warchod yr hyn sydd gennym ni, ac adeiladu oddi ar hynny er mwyn ymateb i newid. Mae'r weledigaeth hon yn ymdrech ar y cyd.

Ein Gwerthoedd


Mae ein gwerthoedd yn cynrychioli credoau ein sefydliad a'r ymddygiad a ddisgwyliwn gan bawb sy’n gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

  • Rydym yn ymfalchïo yn ein gwaith
  • Rydym yn deg â phawb
  • Rydym yn arloesol
  • Rydym yn gweithio fel tîm

Ein Blaenoriaethau

  • Mae pobl yng Nghonwy’n gwerthfawrogi ac yn edrych ar ôl yr amgylchedd
  • Mae pobl yng Nghonwy yn byw mewn sir gydag economi lewyrchus gyda diwylliant yn ganolog iddi
  • Mae Pobl yng Nghonwy wedi’u haddysgu ac yn fedrus
  • Mae gan bobl yng Nghonwy fynediad at lety fforddiadwy ac addas o safon uchel sy’n gwella safon eu bywyd.
  • Mae pobl yng Nghonwy'n ddiogel ac yn teimlo'n ddiogel
  • Mae pobl yng Nghonwy yn iach
  • Mae pobl yng Nghonwy yn byw mewn sir ble mae’r Gymraeg yn ffynnu, a gall pobl gymryd rhan mewn pob agwedd ar fywyd cymunedol yn Gymraeg
  • Mae pobl yng Nghonwy yn cael gwybodaeth, yn cael eu cynnwys ac yn cael llais a gallant gyfrannu at gymuned ble mae eu cefndir a’u hunaniaeth yn cael ei werthfawrogi a’i barchu.
  • Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn wydn


Dogfennau

 

Cynllun Corfforaethol 2022-2027 Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (BSL)


Fideo BSL:




Cofiwch fod y sgwrs yn parhau 

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content