Skip to [main navigation | secondary navigation | content]
A i Y | Cysylltwch â ni | English
Conwy castle / Castell Conwy

 

Diogelwch y Ffyrdd

Swyddog Diogelwch y Ffyrdd: Dafydd Edwards
Ffôn: 01492 575425
E bost: diogelwch.ffyrdd@conwy.gov.uk

 

Swyddogaeth hollbwysig arall sydd gan y Grŵp ydy Diogelwch y Ffyrdd. Mae'r Adain Diogelwch Ffyrdd yn cydweithio'n agos efo ysgolion cynradd lleol a'r heddlu lleol er mwyn cynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth plant o ddiogelwch ffyrdd.

Ar gyfartaledd, mae 10 o bobl yn cael eu lladd mewn damweiniau ffordd ym Mhrydain BOB DYDD! Mae dros 1,000 yn cael eu hanafu bob dydd, rhai ohonynt yn ddifrifol iawn. Mewn ymdrech i leihau nifer y damweiniau, mae'r Uned Diogelwch Ffyrdd yn darparu gwasanaeth pwysig drwy gyfrwng rhaglen Addysg, Hyfforddiant a Chyhoeddusrwydd. Lle bo’n berthnasol, mae'r rhaglen yn cael ei chynllunio gan gadw mewn golwg ddata cenedlaethol, rhanbarthol a lleol ynglŷn â damweiniau ffordd. Mae'r Uned hon yn gyfrifol hefyd am y Gwasanaeth Patrolio Croesfannau Ysgol, ac y mae cyswllt agos gyda'r heddlu ac ysgolion lleol er mwyn hybu hyfforddiant beicio, defnyddio ffyrdd yn ddiogel wrth gerdded, a diogelwch wrth deithio mewn ceir. Mae gwybodaeth am gyrsiau hyfforddiant, a chyngor cyffredinol ynglŷn â holl agweddau teithio ar ffyrdd, ar gael yn rhad ac am ddim.

AMCANION DIOGELWCH Y FFYRDD

Lleihau anafiadau mewn damweiniau ffordd

Gwella ymddygiad defnyddwyr y ffordd

Annog pawb sy'n defnyddio'r ffordd i gael

agwedd gadarnhaol tuag at ddiogelwch y ffyrdd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn aelod o Gyngor Diogelwch y Ffyrdd Cymru (Road Safety Council of Wales): y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (Royal Society for the Prevention of Accidents), Grwp Diogelwch Ffyrdd Gogledd Cymru a Chymdeithas Swyddogion Diogelwch y Ffurf Awdurdodau Lleol (LARSOA).

Gwybodaeth

Mae gennym ddewis eang o lyfrynnau a thaflenni ar gael yn ddi-dâl.  Maent yn delio efo amrediad eang o bynciau, yn cynnwys defnyddio gwregysau diogelwch, cyngor i yrwyr cerbydau a beiciau modur, a symud o gwmpas efo plant ifanc, beicio, effeithiau cyffuriau ac alcohol, a.y.y.b.

Hyfforddiant

Mae cyrsiau ar gael, naill ai'n uniongyrchol trwy'r Uned Diogelwch y Ffyrdd neu asiantaethau eraill, ar gyfer y rhan fwyaf o ddefnyddwyr y ffyrdd.

  • Hyfforddiant Beicio - bydd yn cael ei ddarparu i ddisgyblion Blwyddyn 5 neu Flwyddyn 6 mewn ysgolion cynradd/iau. Er mwyn gallu darparu hyfforddiant mewn ysgol, bydd angen i'r Uned gael hyfforddwr/aig cofrestredig ar gyfer y lleoliad. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn dod yn hyfforddwr/aig gysylltu'r â Swyddog Diogelwch y Ffyrdd. Nid oes angen profiad blaenorol arnoch.
  • Beicwyr Modur - erbyn hyn, rhaid i bobl gael Hyfforddiant Sylfaenol Gorfodol cyn cael cadarnhau eu trwydded dros dro i fynd ar ffyrdd cyhoeddus. Mae gwybodaeth am asiantaethau hyfforddi lleol ar gael o'r swyddfa hon neu oddi wrth Asiantaeth Safonau Gyrru (Driving Standards Agency).
  • Gyrwyr Bysus Mini - mae hyfforddiant gyrwyr bysus mini ar gael i athrawon, arweinyddion ieuenctid ac eraill, nad oes ganddynt drwydded PCV ac a fydd yn mynd â grwpiau allan mewn bysus mini fel rhan o'u gwaith neu fel gwirfoddolwyr.
  • Marchogwyr Ceffylau - gall marchogwyr ceffylau gael eu hyfforddi'n lleol gan hyfforddwyr trwyddedig, ar gyfer arholiad Cymdeithas Ferlota Prydain am Dystysgrif Marchogaeth a Diogelwch y Ffyrdd.
  • Gyrwyr - gyrwyr a theithwyr mewn ceir yw bron hanner yr holl bobl sy'n cael eu hanafu mewn damweiniau ffordd. Bydd gyrwyr yn cael eu hannog i atgoffa eu hunain yn rheolaidd o Reolau'r Ffordd Fawr a gwella safon eu gyrru, trwy gymryd prawf pellach ac ymuno efo Sefydliad y Gyrwyr Safon Uwch neu Gymdeithas Gyrwyr Safon Uwch RoSPA.  Bydd y Cyngor yn cefnogi'r Cwrs Gwella Gyrwyr, sy'n cael ei weinyddu gan Gyngor Sir y Fflint ar ran Heddlu Gogledd Cymru a chynllun "Pass Plus" y DSA, ar gyfer gyrwyr sydd newydd basio eu prawf.  Plant yn defnyddio Gwn Radar i fesur Cyflymder ar gyfer Prosiect Maths.

Adnoddau Addysgol

Mae amrediad o adnoddau ar gael i'w defnyddio mewn ysgolion a sefydliadau eraill. Bydd rhai, fel llyfrau gwaith a dalennau lliwio, ar gael yn ddi-dâl, tra bo deunyddiau eraill fel fideos neu eitemau mwy sylweddol ar gael ar fenthyg am gyfnod hir neu gyfnod byr.  Fideos: yn delio efo amrediad o bynciau, yn cynnwys sut i ddefnyddio a chroesi ffyrdd, beicio, beiciau modur, marchogaeth ceffylau, gyrru bysus mini, gyrru ceir, defnyddio gwregysau diogelwch.  Deunyddiau Darlunio: ar amrywiaeth eang o bynciau yn gysylltiedig efo ffyrdd a hefyd yn berthnasol i bynciau yn y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Gwasanaeth Gwylwyr Croesfannau Ysgol

Bydd Gwylwyr Croesfannau Ysgol (merched a dynion lolipop) yn gweithio mewn mannau sy'n ateb y meini prawf o ran nifer y plant sy'n croesi'r ffordd a faint o drafnidiaeth sydd yno.  Byddwn yn falch iawn o glywed oddi wrth unrhyw un sy'n dymuno gweithio fel Gwylwyr Croesfannau Ysgol, yn enwedig os ydynt yn barod i wneud y gwaith o dro i dro i lenwi bylchau.

Cyhoeddusrwydd

Bydd y Cyngor yn hyrwyddo a chefnogi ymgyrchoedd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol trwy ddosbarthu posteri a thaflenni a defnyddio arddangosfeydd sefydlog.  Bydd unedau arddangos symudol Grwp Diogelwch y Ffyrdd Gogledd Cymru yn ymweld â gwahanol ddigwyddiadau yn y Fwrdeistref Sirol yn ystod misoedd yr Haf.


Gweler Hefyd

Cyhoeddwyd: 17/10/2005    Newidiad diweddaraf: 14/12/2005
  |

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Bodlondeb, Conwy, Gogledd Cymru, LL32 8DU.
Ffôn: 01492 574000. Ffacs: 01492 574559. E-bost: gwybodaeth@conwy.gov.uk
Diogelu Data - Rhyddid Gwybodaeth| Hawlfraint a Gwadiadau