Skip to [main navigation | secondary navigation | content]
A i Y | Cysylltwch â ni | English
Trees / Coed

 

Compostio Cartref

Bin Compost

Mae bron traean o wastraff cartref yn organig ac yn addas ar gyfer compostio. Drwy ei dynnu allan o'r bin, rydych yn helpu i ddiogelu'r amgylchedd a lleihau'r angen am domenni sbwriel a llosgyddion.

Pam Compostio?

Mae gwastraff cegin a gardd wedi'i gompostio'n ddewis gwych, yn hytrach na defnyddio gwrtaith a mawn artiffisial drud.

Ym Mhrydain yn unig mae hyd at 94% o fawnogydd wedi'u difrodi, gan ddifa cynefin sawl planhigyn ac anifail prin.

Mae coelcerthi mewn gerddi yn llygru ac yn niwsans - mae compostio'n atal yr angen am losgi.

Compostio yw'r dull hwylusaf o ailgylchu eich gwastraff. Gallwch ei wneud gartref a gall y teulu i gyd gymryd rhan!

Mae compostio cartref o fudd i'ch gardd a'ch amgylchedd ac mae'n hawdd ac yn hwyl!

Sut mae'n gweithio?  

  1. Casglwch eich holl wastraff cegin a gardd addas, e.e. Croen Llysiau, Bagiau Te, Glaswellt, Dail, Papur wedi ei falu'n fan, Croen Ffrwythau ayb.
  2. Rhowch ef yn y bin compost
  3. Rhowch ddarn o hen garped ar ben y gwastraff i gadw'r gwres i mewn.
  4. Mae pob math o fwystfilod bach, o'r organebau lleiaf i bryfaid genwair yn torri'r gwastraff i lawr, sy'n rhoi cyflenwad o gompost am ddim i chi!

Bin compost a cadi - £15

Gallwch brynu cadi cegin a bin compost gennym am £15 yn unig. Gallwch dalu am eich bin compost a’ch cadi gyda cherdyn credyd/ debyd, siec neu arian.

Yn anffodus nid ydym yn gallu dosbarthu biniau compost. Maent bellach ar gael i’w casglu o’n swyddfeydd ym Mochdre ar Conway Road, Mochdre, Bae Colwyn, LL28 5AB.

Mae'r compostwyr cryf ac anhyblyg hyn yn cynnwys drws llydan i gael mynediad rhwydd at eich compost pan fydd yn barod.

Uchafswm o 2 fin i bob cartref.


Dogfennau perthnasol

Acrobat/PDF FileYmholiadau Compostio ac Atebion.pdf
Math o ddogfen: Acrobat/PDF File
Maint y ddogfen: 110k

Acrobat/PDF FileSut Mae Compostio.pdf
Math o ddogfen: Acrobat/PDF File
Maint y ddogfen: 43k

Acrobat/PDF FileBeth A Ellir Ei Gompostio.pdf
Math o ddogfen: Acrobat/PDF File
Maint y ddogfen: 45k

Gweler Hefyd

Cyhoeddwyd: 08/04/2010    Newidiad diweddaraf: 20/07/2010
  |

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Bodlondeb, Conwy, Gogledd Cymru, LL32 8DU.
Ffôn: 01492 574000. Ffacs: 01492 574559. E-bost: gwybodaeth@conwy.gov.uk
Diogelu Data - Rhyddid Gwybodaeth| Hawlfraint a Gwadiadau