Mae rhieni a gofalwyr yn gyfrifol am eu plant eu hunain ac mae'n rhaid iddynt aros gyda nhw.
Mae'r sesiynau yma yn gyfle gwych i rieni i gyfarfod rhieni eraill a hefyd rhoi cyfle i'w plant gymysgu gyda phlant eraill gan fwynhau gwahanol deganau a gweithgareddau.
Mae Grwpiau Rhieni a Phlant Bach fel arfer ar agor am ychydig o oriau'r dydd, unwaith yr wythnos ac maent fel arfer wedi cau yn ystod gwyliau'r ysgol.
Nid oes rhaid i Grwpiau Rhieni a Phlant Bach fod wedi eu cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC / CSSIW)
Mae gwybodaeth am ofal plant a sefydliadau ar gyfer plant a phobl ifanc ar gael ar www.conwy.gov.uk/ggdc neu ffonio Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy ar 01492 577850 neu dewch i'n gweld yng Nghanolfan Lôn Hen Ysgol.