
Cynllun Corfforaethol 2008-2012
Bydd y Cynllun Corfforaethol hwn yn ein helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol, gan ganolbwyntio ar beth sy’n bwysig dros y pedair blynedd nesaf – y meysydd mae ein cymunedau wedi dweud wrthym lle mae angen newid a gwelliannau a lle bydd angen i ni fuddsoddi ein hadnoddau. Mae’n amlygu beth yr ydym am ei wneud am y pedair blynedd nesaf a bydd ein Cynllun Datblygu Lleol yn ei gefnogi.
Mae’n edrych yn wahanol iawn i gynlluniau a strategaethau arferol y cyngor – mae’n fyr ac yn gryno ac yn siarad yn uniongyrchol â chi – pobl Bwrdeistref Sirol Conwy, gan ganolbwyntio ar eich anghenion ac yn eich cefnogi chi i wneud eich cymuned y lle rydych yn falch o fyw ynddo.
Mae’n canolbwyntio ar ddwy brif thema:
- Cymryd mantais ar sefyllfa Conwy yng nghanol Gogledd Cymru ac
- Ailfywhau ein cymunedau
Fel rydym yn darparu’r cynllun hwn byddwn yn canolbwyntio fwy a mwy arnoch chi, ein cwsmeriaid. Byddwn yn treulio amser yn gwrando ar beth sy’n bwysig i chi a’r cymunedau lle’r ydych yn byw. Bydd yn eich cynnwys yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu dylunio a’u darparu a’ch annog i ddod yn rhan o’r broses ddemocrataidd. Gan weithio gyda’n partneriaid yn lleol, yn rhanbarthol a chenedlaethol byddwn yn amlygu lle gallwn weithio’n well gyda’n gilydd i ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl gan sicrhau eich bod yn cael dewis yn y math o wasanaethau a gewch a’r ffordd y darperir gwasanaethau.
Bob blwyddyn, byddwn yn adrodd yn ôl i chi ar y cynnydd yr ydym wedi’i wneud ac ar ddiwedd y 4 blynedd, byddwn yn gofyn i chi, pobl Conwy, os ydym wedi cyflawni ein haddewidion.
Fodd bynnag, y cam cyntaf ydi cael cynllun. Os ydym am wneud gwahaniaeth go iawn a gwneud iddo weithio, mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i roi’r geiriau hyn ar waith.
Pe bai’n well gennych chi neu rywun yr ydych yn eu hadnabod gael y Cynllun hwn mewn fformat gwahanol ffoniwch 01492 574000.