Skip to [main navigation | secondary navigation | content]
A i Y | Cysylltwch â ni | English
Trees / Coed

 

Amgueddfa Llandudno

Dewch i Amgueddfa Llandudno i ddarganfod yr hanes hir a diddorol sy’n perthyn i Landudno.

Ewch ar wibdaith yn ôl drwy’r oesoedd i:

  • Weld yr ôl-troed ar y deilsen Rufeinig;
  • Cael gwybod am y gwaith ym Mwyngloddiau Copr Llandudno;
  • Ymweld â chegin Gymreig gyda’i dodrefn, a’i sosbenni a phadelli traddodiadol;
  • Dysgu sut y datblygodd y dref yn gyrchfan wyliau bwysig;
  • Dysgu rhagor am Landudno ar adeg rhyfel;
  • Bwrw golwg ar y lluniau a’r cerfluniau bendigedig o wahanol fannau o’r byd.

Mae rhywbeth at ddant pawb yn Amgueddfa Llandudno. Ac mae rhywbeth newydd yno o hyd, gyda rhaglen gyffrous o arddangosfeydd dros dro AM DDIM.

Ar Agor:

Y Pasg – 31 Hydref : dydd Mawrth – dydd Sadwrn a Gwyliau’r Banc: 10.30 – 1.00 & 2.00 – 5.00

dydd Sul 2.15 – 5.00

1 Tachwedd– Y Pasg: dydd Mawrth – dydd Sadwrn 1.30 – 4.30

Tâl Mynediad

Cyfarwyddiadau: Ar Mostyn Street wrth fynd i gyfeiriad y Gogarth, trowch i mewn i Gloddaeth Street. Mae’r Amgueddfa i’w gweld 200 metr ar hyd y ffordd gyferbyn â Gwesty’r Grand Ash.

Mynediad: Mynediad i gadeiriau olwyn i’r llawr gwaelod yn unig.

  

Amgueddfa Llandudno

TÅ· Chardon,
17-19 Gloddaeth Street
Llandudno,
LL30 2DD

Ffôn/Ffacs: 01492 876517

E-bost: llandudno.museum@lineone.net

 


Cyhoeddwyd: 21/05/2004    Newidiad diweddaraf: 11/04/2007
  |

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Bodlondeb, Conwy, Gogledd Cymru, LL32 8DU.
Ffôn: 01492 574000. Ffacs: 01492 574559. E-bost: gwybodaeth@conwy.gov.uk
Diogelu Data - Rhyddid Gwybodaeth| Hawlfraint a Gwadiadau