Ar lawr gwaelod Rhif 4, a atgyweiriwyd yn ddiweddar, mae amgueddfa fechan sy’n rhoi sylw i’r diwydiant chwareli a thwf Penmaenmawr yn y 19eg Ganrif. Trwy ddefnyddio modelau, ffotograffau, gwrthrychau gwreiddiol ac arddangosfeydd rhyngweithiol, mae’r amgueddfa yn cynnig ciplun o fywyd mewn cymuned ddiwydiannol yng Nghymru.
- Cewch wybod pam rhoddwyd yr enw ‘New York’ i’r bythynnod;
- Dysgwch sut daeth Penmaenmawr yn dref wyliau bwysig;
- Ceisiwch ddatrys sut roedd 10 o bobl yn byw yn y tÅ· bychan hwn;
- Cewch gyfle i wisgo gwisg nodweddiadol y cyfnod.
Ar Agor: 1 Mehefin - 30 Medi:
Dydd Mercher, Iau a Gwener 2.00 – 4.00
Grwpiau gydol y flwyddyn drwy apwyntiad.
Mynediad Am Ddim
Mynediad: Mynediad i bob man i gadeiriau olwyn
Cyfarwyddiadau: O ganol Penmaenmawr, ½ milltir ar y chwith, ar ôl peiriant cludo y chwarel.
Parcio: troi i’r chwith ar ôl y bythynnod, cyn Maen Alaw, ac yn syth i’r chwith i mewn i faes parcio Neuadd y Seiri Rhyddion.
4, Teios New York
Bangor Road, Penmaenmawr
LL34 6LE.
Ffôn. 01492 575571