Skip to [main navigation | secondary navigation | content]
Cysylltwch â ni | Preifatrwydd a Cwcis | English

 

Tyllau ar y ffyrdd

Gwaith Ffordd

Yn dilyn y tywydd gwaethaf ers 30 mlynedd a'r effaith aruthrol mae hyn wedi ei gael ar arwynebau ffyrdd, mae'r Gwasanaeth bellach wedi gwneud gwaith trwsio ar dyllau yn ôl trefn blaenoriaeth.

Cliciwch ar y ddolen hon i riportio twll yn y ffordd

Dyma atebion i'r cwestiynau a ofynnir amlaf ynglŷn â thyllau ar ffyrdd

Pam fod mwy o dyllau ar y ffyrdd y gaeaf hwn?

Mae tyllau ar ffyrdd ledled y sir - ond mae mwy wedi ffurfio'r gaeaf hwn o ganlyniad i'r cyfnod hir o dywydd caled rhwng mis Tachwedd a mis Chwefror.  Roedd nifer o ffyrdd wedi'u gorchuddio gan eira a rhew am sawl wythnos.

Pa effaith mae'r eira a'r rhew wedi'i gael ar arwynebau'r ffyrdd?

Achosir tyllau a diffygion ar ffyrdd gan ddŵr sy'n treiddio i arwyneb ffordd drwy graciau a achosir gan draffig fel arfer.  Pan fod y tymheredd yn syrthio, mae'r dŵr yn rhewi ac yn ehangu, gan achosi toriadau yn yr arwyneb.  Pan fod rhew'n toddi mae'n gadael bwlch o dan yr arwyneb, sy'n dymchwel dan bwysau traffig gan achosi twll yn y ffordd yn y pendraw.  Mae effeithiau ailadrodd y broses rewi a dadmer y gaeaf hwn wedi achosi i ragor o dyllau ffurfio'n gyflymach.

Sut ydych chi'n penderfynu pa dyllau yn y ffordd i'w trwsio gyntaf?

Mae diogelwch bob amser yn flaenoriaeth. Pan nad yw'n bosibl gwneud gwaith trwsio ar unwaith oherwydd peryglon eraill neu lifogydd tymor hir, efallai y byddwn yn defnyddio arwyddion dros dro a rhwystrau i ddargyfeirio cerbydau o amgylch y diffyg.  Mae peirianwyr priffyrdd yn archwilio pob diffyg ac yn penderfynu pa rai sydd angen eu trin fel blaenoriaeth.  Mae diffygion priffyrdd yn syrthio i un o'r categorïau a ganlyn:

Diffygion brys sy'n cael eu gwneud yn ddiogel o fewn dwy awr - gallai'r gwaith trwsio hwn fod yn rhaib dros dro er mwyn gwneud y ffordd yn ddiogel gyda gwaith trwsio parhaol yn cael eu gwneud yn ddiweddarach.

Caiff diffygion sy'n cael eu rhoi yng Nghategori 1 eu gwneud yn ddiogel/ eu trwsio o fewn 24 awr.

Daw diffygion heb fod yn rhai brys yn rhan o'r rhaglen drwsio a chânt eu trwsio o fewn dau fis.

Caiff gwaith mwy neu gymhleth (fel gwaith ail-wynebu mawr ar lonydd neu balmentydd) eu rhaglennu'n gyffredinol ar wahân.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng gwaith trwsio dros dro a pharhaol?

Byddai gwaith trwsio parhaol arferol yn golygu torri darn siâp hirsgwar o ffordd o amgylch y twll gyda llif llafn diemwnt i roi ochrau glan, cyfwynebol i'r ardal sy'n cael ei thrwsio.  Caiff y twll ei lanhau a'i baentio gyda rhwymwr bitwminaidd.  Mae'r twll yn cael ei lenwi gyda deunydd rhwymo bitwminaidd poeth sy'n cael ei gribinio ac yna ei gywasgu'n fecanyddol.  Mae gwaith trwsio dros dro yn fesur tymor byr i ddiogelu ffordd ac yn golygu defnyddio deunyddiau oer wedi'u setio i lenwi'r twll nes y gellir gwneud gwaith trwsio parhaol.

Yw gwaith trwsio dros dro yn aneconomaidd?

Gallai gwaith trwsio argyfwng fod o natur dros dro nes y gellir gwneud gwaith trwsio parhaol ond nid yw hyn yn aneconomaidd;  y peth pwysig yw gwneud y ffordd yn ddiogel i ddefnyddwyr nes y gellir gwneud gwaith trwsio parhaol.

Pa mor hir mae'n cymryd i drwsio twll yn y ffordd?

Mae hyn yn dibynnu ar faint a natur y twll neu'r diffyg. 

A fydd rhaid i chi gau unrhyw ffyrdd er mwyn trwsio tyllau yn y ffordd?

Mae'n debygol iawn y bydd hyn yn wir.  Mae graddfa'r difrod a achosir i arwyneb ffordd gan eira mor fawr.  Mae'n bosibl y bydd angen cau rhai ffyrdd gwledig culach gyda chyfyngiadau cyflymder uwch wrth i'r gwaith trwsio ddigwydd er mwyn sicrhau diogelwch y gweithlu a defnyddwyr y ffordd.  Mae'n llai tebygol y bydd angen cau ffyrdd trefol lle mae cyfyngiad cyflymder o 30 milltir yr awr neu is, a lle mae'n bosibl i gwblhau'r gwaith drwy gau darn o'r ffordd.

Rydym yn ceisio osgoi cau'r ffordd, lle bo hynny'n bosibl, a gwneud gwaith trwsio drwy ddefnyddio rheolaeth traffig dros dro (er enghraifft byrddau Stop/Go).  Er hynny, mae'n anorfod y bydd gwaith trwsio tyllau yn y ffordd weithiau'n golygu bod angen cau'r ffordd wrth i'r gwaith gael ei wneud.

Os yw'r ffordd yn gul, neu fod y gwaith yn digwydd ar dro yn y ffordd, bydd angen cau'r ffordd am resymau iechyd a diogelwch i sicrhau diogelwch gweithwyr, defnyddwyr y ffordd a cherddwyr.  Pan fod ffordd ar gau, rydym yn ceisio sicrhau bod yr amhariad yn un mor fyr â phosibl gan agor y ffordd yn ystod y cyfnodau prysuraf.

A yw'r tyllau yn waeth mewn rhai ardaloedd?

Mae'n rhy fuan i wybod - rydym yn asesu'r sefyllfa ar hyn o bryd.

Ai ateb cyflym yn unig yw llenwi tyllau ar ffyrdd?  Beth am y tymor hir?

Mewn sefyllfaoedd o argyfwng bydd gwaith trwsio sydyn yn cael ei wneud ac yna bydd gwaith trwsio parhaol yn digwydd gan ddibynnu ar yr amgylchiadau.

A fyddai'n bosibl i chi rhoi arwyneb newydd ar bob ffordd ac atal tyllau rhag ffurfio o gwbl?

Ni fyddai'n bosibl dileu tyllau yn y ffyrdd, gan eu bod yn ymddangos ar hap drwy'r amser, a bydd tyllau yn parhau i ddatblygu wrth i ffyrdd fynd yn hyn a bydd y rhain yn cael eu trwsio fel rhan o'n rhaglen gynnal a chadw arferol. Yr unig ffordd i dorri i lawr ar ddiffygion newydd ydi ail-wynebu mwy cyflawn, ac efo 1,700 cilometr o ffyrdd am gost o oddeutu £50,000+ y cilometr yn amodol ar fath a lleoliad y ffordd. Byddai hwn yn opsiwn anfforddiadwy ar gyfer trethdalwyr heb fawr mwy o nawdd oddi wrth y Llywodraeth ganolog i gynnal ein ffyrdd.

Beth yw cost trwsio un twll yn y ffordd?

Ar gyfartaledd tua £30 ond yn amodol ar faint ac ansawdd.

Sut ydych chi'n gwybod ble mae'r rhai gwaethaf?

Mae pob priffordd yn cael ei harchwilio am ddiffygion diogelwch ac mae amlder y rhain yn dibynnu ar sawl ffactor, fel y defnydd a wneir o'r ffordd.  Wrth gwrs mae'n bosibl i ddiffygion a thyllau ddigwydd rhwng archwiliadau ac mae adroddiadau gan y cyhoedd yn ddefnyddiol iawn er mwyn eu blaenoriaethu a delio â'r diffygion.

Sut ydw i'n rhoi gwybod am dwll yn y ffordd?  Fyddwch chi'n dod i'w drwsio? 

Y ffordd fwyaf effeithlon i drigolion roi gwybod i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am dwll yn y ffordd neu ddiffyg ar y ffordd yw llenwi ffurflen ar-lein. Mae'r adroddiadau hyn wedyn yn mynd yn uniongyrchol i'r ardal lle gellir eu hasesu a'u datrys. Gall trigolion sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd alw i mewn gydag adroddiad o dwll yn y ffordd a ffonio: 01492 575495

Mae'r Jetpatcher yn broses wahanol i'r trwsio confensiynol o ddiffygion yn y ffordd fel ceudyllau, rhychau olwynion, craciau wyneb etc.

Dyma broses 3 cham, pob un ohonynt yn defnyddio'r un trwyn sy'n sownd i gefn y peiriant.

Mae'r trwyn yn chwythu aer yn sydyn i gael gwared ar falurion ac yn glanhau'r ardal sydd wedi'i difrodi.

Caiff emwlsiwn bitwmen eich chwistrellu i'r holl graciau a'r holltau yn y bwlch a'r ardal o'I amgylch. Caiff bitwmen hylif ac agregau eu cymysgu gyda'i gilydd yn y trwyn cyn cael eu chwistrellu i'r bwlch. Mae'r diffyg yn cael ei lenwi a'i gywasgu o'r gwaelod i fyny, gal olygu gwaith trwsio wedi bondio, wedi'i lefelu a'i selio'n llawn.

Cysylltwch â ni

Priffyrdd ac Isadeiledd
Yr Heath,
Penmaenmawr Road,
Llanfairfechan,
Conwy.
LL33 0PF

Ffôn: 01492 575495 / 575416
E-bost: priffyrdd@conwy.gov.uk  


Dolennau'r We



Pa mor ddefnyddiol oedd y wybodaeth hon?
Defnyddiol      Ddim yn siŵr     Ddim yn ddefnyddiol

Sut allwn ni wneud y dudalen hon yn well?


neu

A gawsoch beth roeddech yn chwilio amdano?
Do    Yn rhanol    Na    Dim ond pori

Ar raddfa o 1 i 5, gydag 1 yn wael a 5 yn dda iawn, beth yw eich barn am agweddau canlynol y safle hwn:
Defnyddio – beth yw eich profiad o ddod o hyd i wybodaeth allweddol ar y safle hwn?
1    2    3    4    5

Llywio – beth yw eich profiad o ddod o hyd i'ch ffordd o amgylch y safle?
1    2    3    4    5

Chwilio – pa mor effeithiol yw'r chwiliad wrth ddod o hyd i'r wybodaeth rydych ei heisiau?
1    2    3    4    5

Cynllun – beth yw eich barn am edrychiad a theimlad cyffredinol y safle?
1    2    3    4    5

Defnyddioldeb – beth yw eich barn am yr wybodaeth ar y safle o ran ei ddibynadwyedd a'i berthnasedd?
1    2    3    4    5

Mapiau – beth yw eich profiad o ddefnyddio mapiau ar y safle?
1    2    3    4    5

Bodlonrwydd cyffredinol – yn gyffredinol, pa mor fodlon ydych chi gyda'ch ymweliad heddiw?
1    2    3    4    5

Hoffech chi wneud unrhyw sylwadau eraill am y meysydd uchod neu am y safle yn gyffredinol?


neu

Oedd yna brif faes gwasanaeth yr oedd gennych ddiddordeb ynddo heddiw?


Beth oedd prif bwrpas eich ymweliad â'r safle hwn heddiw?


Pa rai o'r canlynol sy'n berthnasol i chi? (ticiwch bob un sy'n berthnasol)
Rwy'n byw yn yr ardal hon
Rwy'n gweithio yn yr ardal hon
Rwy'n gweithio i'r Cyngor
Rwy'n bwriadu ymweld â'r ardal hon
Rwy'n bwriadu symud i'r ardal hon
Rwy'n Gynghorydd lleol
Rwy'n chwilio am wybodaeth i mi fy hun
Rwy'n chwilio am wybodaeth sy'n ymwneud â'm gwaith
Rwy'n chwilio am wybodaeth ar ran rhywun arall

Os na fyddech wedi dod i'r wefan ar gyfer yr uchod, sut fyddai orau gennych gysylltu â'r Cyngor?


Pa mor debygol ydych chi o ddychwelyd i'r wefan hon yn y dyfodol?


Sut ddaethoch chi i wybod am y safle hwn?


Yn y 6 mis diwethaf, sawl gwaith yn fras ydych chi wedi ymweld â'r wefan?


Eich cod post


neu

Ystod oedran


Rhyw


Sut fyddech chi'n disgrifio eich tarddiad ethnig?


Nodwch os yw un o'r canlynol yn cael effaith ar eich defnydd o'r rhyngrwyd.
Nam ar y golwg
Anawsterau symud
Anawsterau gwybyddol neu ddysgu
Nam ar y clyw
Dim o'r rhain
Ddim eisiau dweud

Cyhoeddwyd: 18/10/2011    Newidiad diweddaraf: 17/12/2012
 
Porthiannau RSS
Dilynwch ni ar Facebook
Dilynwch ni ar Twitter
Llyfrnodi'r dudalen hon
Rhannu'r dudalen hon

Manylion cyswllt

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy,
Bodlondeb, Conwy,
Gogledd Cymru, LL32 8DU.
Ffôn: 01492 574000
Ffacs: 01492 574559
E-bost:
gwybodaeth@conwy.gov.uk
Sylwadau, Canmoliaeth a chwynion
 

Cyfreithiol

Bod yn atebol
Diogelu Data
Rhyddid Gwybodaeth
Hawlfraint a Gwadiadau
 

Gwybodaeth gwefan

Adborth am y wefan
Porthiannau RSS
Dilynwch ni ar Twitter
Allweddi mynediad
Cwcis
Argaeledd gwefan
 

Gwefannau Llywodraeth

Llywodraeth Cymru
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Heddlu Gogledd Cymru
Galw Iechyd Cymru
GOV.UK
Senedd y Ddeurnas Unedig