top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
cy Cartref Canolfannau Hamdden Canolfan Hamdden Colwyn
start content

Canolfan Hamdden Colwyn

Eirias Park
Bae Colwyn
LL29 7SP
Ffôn: 0300 456 95 25
hamdden.leisure@conwy.gov.uk

 

Amseroedd Agor

CyfnodAgorCau
Dydd Llun i Ddydd Gwener 6.00 am 9.00 pm
Dydd Sadwrn 7.00 am 4.30 pm
Dydd Sul 8.00 am 4.30 pm


Gweler ein hamserlen am ragor o wybodaeth.

Oriau Agor dros y Pasg

  • Dydd Llun 25 Mawrth - Dydd Iau 28 Mawrth:  Fel Arfer
  • Dydd Gwener y Groglith 29 Mawrth:  6.00 am - 2.00 pm
  • Dydd Sadwrn y Pasg 30 Mawrth:  7.00 am - 2.00 pm
  • Dydd Sul y Pasg 31 Mawrth:  Ar Gau
  • Dydd Llun y Pasg 1 Ebrill:  6.00 am - 2.00 pm
  • Dydd Mawrth 2 Ebrill - Dydd Gwener 5 Ebrill:  Fel Arfer

Ynglŷn â'r Ganolfan Hamdden

Lleolir Canolfan Hamdden Colwyn ym mharc hardd Eirias ac mae'n cynnig pwll nofio, campfa, stiwdios ffitrwydd ac amserlen dosbarth ffitrwydd i bawb.7

Mae'r pwll nofio yn cynnig nifer amrywiol o sesiynau nofio i'r cyhoedd a rhaglen gwersi nofio helaeth ar gyfer pob oedran. Mae'r gampfa'n cynnig offer o'r radd flaenaf ac mae'r amserlen dosbarthiadau ffitrwydd yn cynnig amrywiaeth eang o ddosbarthiadau, gan gynnwys dosbarthiadau ar y we yn yr ystafell stiwdio newydd.

Mae yna hefyd gae Astro awyr agored, trac athletau a chae 4G maint llawn ar gael ar gyfer archebion clwb a phreifat.


Cyfleusterau

  • Pwll Nofio
  • Ystafell Ffitrwydd
  • Trac Athletau
  • Cae Synthetig
  • Cae 4G
  • Stiwdios ymarfer corff grŵp
  • Caffi ar y safle
  • Offer nofio a ffitrwydd ar gael i'w prynu
  • Maes parcio

 

end content